Symud maes parcio'r Eisteddfod dros dro ddydd Llun
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod wedi penderfynu symud maes parcio'r ŵyl dros dro yn sgil tywydd gwael ym Modedern.
Fore Llun, fe fydd gofyn i ymwelwyr adael eu ceir ym maes parcio Sioe Môn ym Mona a chymryd bws gwennol i'r Maes.
Yn ôl yr Eisteddfod, bydd y drefn newydd ar waith "am gyfnod ddydd Llun" er mwyn "arbed y tir" o gwmpas y safle parcio presennol.
Ond mae'r trefniadau parcio gwreiddiol yn dal mewn grym ar gyfer y Gymanfa Ganu ar y Maes nos Sul. Mae'r Gymanfa wedi cael ei gohirio am hanner awr oherwydd y tywydd gwael.


Mae'r gwynt a'r glaw wedi taro'r Maes a'r maes parcio

Y polyn yn y cefndir yn cael ei ddal i lawr oherwydd nerth y gwynt
Mae maes parcio Sioe Môn wedi'i leoli oddi ar gyffordd chwech yr A55, ychydig i'r de-ddwyrain o Faes yr Eisteddfod.
Mewn datganiad, dywedodd yr Eisteddfod bod "arwyddion eisoes mewn lle i arwain teithwyr i'r maes parcio dros dro" a'u bod yn "gofyn i bob teithiwr eu defnyddio".
Dywedodd yr Eisteddfod mai mesur dros dro ydy symud y maes parcio, fel bod y safle parcio ger y Maes mewn cyflwr iawn ar gyfer canol a diwedd yr wythnos.