Trên arbennig i gefnogwyr pêl-droed Cymru o'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Threnau Arriva Cymru wedi cyhoeddi y bydd trên arbennig yn cludo cefnogwyr o'r gogledd i gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yng Nghaerdydd.

Dywedodd y gymdeithas y bydd y gwasanaeth yn "sicrhau bod cefnogwyr yn gallu mynd i'r ddwy gêm a chyrraedd yn ôl yr un noson, heb y gost o aros dros nos yn y brifddinas neu yrru neu gael bws yn ôl yn hwyr iawn".

Mae dwy gêm gartref yn weddill yn ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia yn - yn erbyn Awstria ar 2 Medi a Gweriniaeth Iwerddon ar 9 Hydref.

Mae'r ddwy gêm yn dechrau am 19:45, sy'n golygu y byddai'n gorffen yn rhy hwyr i ddal y trên arferol olaf o Gaerdydd i'r gogledd.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfodydd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trenau Arriva Cymru a Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru.

£45 dwy ffordd

Bydd y trên yn dechrau o Gaergybi am 11:00 fore'r gêm, gan alw ym Mangor, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn, Y Rhyl, Y Fflint, Caer a Wrecsam cyn cyrraedd y brifddinas am 15:16.

Fe fydd wedyn yn dechrau yn ôl tua'r gogledd am 22:30 o orsaf Caerdydd Canolog.

Ffynhonnell y llun, Trenau Arriva Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y trên yn cyrraedd yn ôl i Gaergybi am 02:51

Y gost am y daith dwy ffordd fydd £45 i oedolion a £22.50 i blant, gyda 20 o lefydd dosbarth cyntaf hefyd ar gael am £65.

Dywedodd Trenau Arriva Cymru bod cyfanswm o 210 o lefydd ar gael ar y gwasanaeth, ac mae'r holl fanylion ar gael ar wefan y gymdeithas bêl-droed, dolen allanol.

"Rydyn ni'n gwybod bod cyrraedd yn ôl o Gaerdydd ar ôl gêm hwyr yn her, felly mae'n beth da cael opsiwn arall i gefnogwyr, ac rydyn yn gobeithio y bydd yn llwyddiant," meddai pennaeth cysylltiadau Trenau Arriva Cymru, Lewis Brencher.

"Mae hyn yn rhywbeth mae Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru wedi galw amdano ac mae'n wych gweithio gyna nhw i'w ddarparu."