Cyflwyno Medal Goffa Syr T H Parry-Williams i Dan Puw

  • Cyhoeddwyd
dan puw
Disgrifiad o’r llun,

Dan Puw yn derbyn y fedal

Mae Dan Puw o'r Parc ger Y Bala wedi derbyn Medal Goffa Syr T H Parry-Williams mewn seremoni ar faes y Brifwyl ddydd Mawrth.

Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Er mai fel ffermwr mae'n ennill ei fara menyn, mae Mr Puw yn adnabyddus i genedlaethau o Gymry fel hyfforddwr a beirniad cerdd dant ac alawon gwerin.

Bu'n hyfforddi cantorion yr ardal ac yn eu helpu i baratoi ar gyfer yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ŵyl Gerdd Dant am flynyddoedd lawer, gan gynnwys cyfnod o 15 mlynedd yn arwain Aelwyd yr Urdd yn y pentref.

Bu parti Meibion Llywarch yn llwyddiannus iawn dan ei ofal, gydag amryw o'r aelodau yn llwyddo fel unigolion hefyd, a chefnogaeth Mr Puw yn rhoi hyder iddyn nhw gamu i'r llwyfan ar eu pennau'u hunain.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dan Puw gyfle i ddathlu gyda'i deulu ar y Maes ddydd Mawrth

Mae'n un o hoelion wyth y Gymdeithas Gerdd Dant, yn aelod ers ei 20au, ac wedi bod yn rhan allweddol o'r pwyllgor am flynyddoedd.

Yn ogystal â hyfforddi a chynnig cymorth a chefnogaeth i gantorion ifanc yr ardal, mae'r capel yn rhan bwysig ym mywyd Mr Puw.

Fe dderbyniodd y Fedal Gee am ei wasanaeth i'r Ysgol Sul, ac mae'n parhau'n athro yn y capel, gyda chenedlaethau wedi bod yn ei ofal dros y blynyddoedd.