Dathlu ein dysgwyr
- Cyhoeddwyd
Efallai mai dydd Gwener ydy diwrnod mawr y Cadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ond mae un bardd wedi ei chadeirio yn barod yn Eisteddfod Môn 2017.
Judith Stammers yw enillydd Cadair y Dysgwyr, gafodd ei chyflwyno gan yr Archdderwydd Geraint Llifon b'nawn Mawrth.
Rhoddodd y beirniad Ifan Prys hi'n gyntaf allan o 30 o feirdd oedd wedi ymgeisio ar y thema Llwybrau.
Daw Judith o Fangor ond un o Lerpwl ydy hi yn wreiddiol.
Symudodd yma 30 mlynedd yn ôl pan gafodd ei gŵr, Malcolm, waith yn yr ardal ond mae prysurdeb bywyd wedi golygu ei bod wedi cymryd amser iddi ddysgu'r iaith yn rhugl, meddai.
"Rwy wedi dechrau a stopio, dechrau a stopio drwy'r holl amser ym Mangor, pan oedd y plant yn ifanc," meddai.
"Mae'r tri o blant yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae fy ngŵr yn dysgu tipyn bach - digon i'w ddefnyddio yn y gwaith fel gweithiwr cymdeithasol.
"Ro'n i'n teimlo ei bod yn bwysig i ddysgu'r iaith er mwyn cymryd rhan mewn pethau cymunedol a jyst gwybod beth sy'n mynd ymlaen - busnesa!"
Ar ôl bod yn sgrifennu yn Saesneg ers rhai blynyddoedd, fe gafodd ei hysbrydoli i roi cynnig arni yn Gymraeg gan Nan Hughes meddai.
"Roeddwn yn mynd i grŵp efo fy ffrind Margaret a Nan - mae'r wobr yma wedi ei rhoi er cof amdani. Roedd hi'n ysbrydoli pobl yn fy ngrŵp i sgrifennu.
"Mae'n teimlo'n anhygoel i ennill, dwi wrth fy modd!" meddai.
Mae'r Gadair wedi ei rhoi er cof am Pat Neill a £75 o wobr gan Cyril Hughes, Llanfairpwll, er cof am ei briod Nan Hughes.
Dywedodd Elwyn Hughes, cadeirydd is-bwyllgor dysgwyr yr eisteddfod, sydd wedi ei dderbyn i'r orsedd eleni am ei gyfraniad i faes dysgu oedolion, fod y gwobrau yma'n rhoi hwb fawr i ddysgwyr.
"Ro'n i yn y seremoni i urddo aelodau newydd i'r orsedd ddoe ac roedd 'na ddysgwraig yno ddaeth ata' i a dweud 'chi oedd y beirniad pan wnes i ennill am y tro cyntaf efo cyfansoddi i ddysgwyr' - ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i sgrwennu.
"Roedd ennill y wobr wedi bod yn hwb iddi fynd ymlaen efo'r sgwennu."
Mae'r gweithiau buddugol yn cael eu cyhoeddi yng Nghyfansoddiadau'r Eisteddfod.
"Mae'r ymateb i'r gystadleuaeth yma bob blwyddyn yn rhyfeddol - 30 wedi cystadlu eleni - ac mae rhywun yn rhyfeddu weithiau at y safon," meddai Elwyn Hughes.
Enillydd y Tlws Rhyddiaith eleni oedd Rosa Hunt, gweinidog yng nghapel dwyieithog Salem yn Nhonteg ond o Malta yn wreiddiol.
Mae'r cystadleuaethau wedi eu graddoli yn ôl lefel gallu'r dysgwyr meddai Elwyn Hughes.
Mae pob un o'r enillwyr eleni yn bobl ddŵad i Gymru sydd wedi eu hysbrydoli i ddysgu'r iaith:
Sgwrs o flaen teledu - lefel Mynediad: Maureen Montford, Ystradgynlais, sy'n dysgu ers tair blynedd ar ôl symud o Loegr 35 mlynedd yn ôl.
Llythyr yn gwahodd i ddosbarth - lefel Sylfaen: Lauren Oliver, saer maen o Benisarwaun ond o Dorset yn wreiddiol. Daeth i Gymru yn 2014.
Llythyr neu ebost yn canmol - lefel Canolradd: Dylan Wyn Jones o deulu Cymraeg o Groesoswallt. Mae wedi symud i Gymru ac yn edrych ymlaen i siarad Cymraeg gyda'i blentyn cyntaf sydd i fod i gyrraedd unrhyw funud!
Adolygiad o westy neu dŷ bwyta: Kath James o Swydd Durham a ddaeth i fyw i Wrecsam ar ôl priodi Cymro. Dysgodd Gymraeg ar ôl ymddeol ac mae bellach yn siarad yr iaith gyda'i hwyrion.
Blog fideo Fy Ardal I - gwaith unigol neu grŵp: Liz Hutchinson o Abergynolwyn ond o dde Lloegr yn wreiddiol. Dateh i Gymru yn 1993 ar ôl cyfarfod â'i gŵr.
Paratoi deunydd i ddysgwyr: Samantha Robinson o Sheffield yn wreiddiol. Daeth i fyw i Gonwy 12 mlynedd yn ôl a dechrau dysgu'r Gymraeg.
Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd!