'Siom' cyflwynydd â'r portread o Gymru ar deledu'r DU

  • Cyhoeddwyd
llion iawn, angharad mair, sian gwynedd

Mae cyflwynwraig flaenllaw wedi dweud ei bod hi'n "siomedig" gyda'r ffordd y mae Cymru'n cael ei phortreadu ar y teledu.

Dywedodd Angharad Mair fod angen dangos mwy o "hyder" wrth fynnu bod angen i raglenni sydd yn cael eu dangos ar draws y DU adlewyrchu'r gwledydd i gyd.

Roedd yn siarad yn ystod trafodaeth ar faes yr Eisteddfod oedd hefyd yn edrych i ba raddau mae'r cyfryngau yng Nghymru yn adlewyrchu'r genedl.

Dywedodd Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru, Sian Gwynedd y byddai'r cyllid ychwanegol gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar yn helpu i wella'r sefyllfa.

'Ystrydebau'

Yn ystod y drafodaeth ar stondin Prifysgol Caerdydd dywedodd Angharad Mair, sydd yn rhedeg cwmni teledu Tinopolis, fod Cymru ddim yn cael ei hadlewyrchu ddigon ar deledu'r DU.

"Nid yn unig d'yn ni ddim yn cael ein portreadu'n ddigonol, ond mae'r ffordd ni'n cael ein portreadu yn fy siomi i," meddai.

Ychwanegodd fod rhaglenni yn aml yn dewis cyflwynwyr o du hwnt i Gymru i ddod i gyflwyno ar ddigwyddiadau a rhaglenni ar gyfer cynulleidfaoedd di-Gymraeg.

"Mae angen i ni fel Cymry gael mwy o hyder wrth bortreadu ein hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd £8.5m yn rhagor yn cael ei roi tuag at raglenni Saesneg BBC Cymru

Dywedodd Pennaeth Dosbarthu Cynnwys S4C, Llion Iwan, oedd hefyd ar y panel, ei fod yn teimlo fod Cymru'n cael ei bortreadu'n deg "o fewn y cyfyngiadau" ariannol presennol.

Ychwanegodd fodd bynnag fod "ystrydebau sy'n cael eu hailgylchu a'u hail bobi drwy'r adeg" am y Cymry mewn rhaglenni.

Wrth ymateb i'r sylwadau fe wnaeth Sian Gwynedd amddiffyn y defnydd o gyflwynwyr adnabyddus, gan ddweud ei bod hi'n "bwysig defnyddio'u sgiliau a'u gwybodaeth".

Dywedodd hefyd fod "gwaith yn digwydd i feithrin cyflwynwyr newydd", a bod llawer o wynebau Cymreig hefyd i'w gweld ar raglenni oedd yn cael eu dangos ar draws y DU.

Rhaglen gylchgrawn arall?

Fe wnaeth y panel hefyd drafod y ffyrdd o gyrraedd cynulleidfaoedd yng Nghymru, gyda Llion Iwan yn dweud fod datblygiadau fel Hansh wedi bod yn llwyddiannus wrth ledaenu cynnwys S4C ar-lein.

Ond yn ôl Sian Gwynedd mae'r "galw am raglenni teledu o safon dal yno".

Ychwanegodd hefyd fod "lot mwy o Gymraeg" i'w glywed bellach ar BBC Wales, drwy gyfresi fel Y Gwyll/Hinterland, a rhaglen ddiweddar Ifor ap Glyn ar Hedd Wyn.

Ond dywedodd Angharad Mair fod bylchau'n parhau yn y ddarpariaeth deledu i Gymry di-Gymraeg, er enghraifft ddiffyg rhaglen gylchgrawn tebyg i Heno ar S4C.