Heiddwen Tomos yn ennill y Fedal Ddrama yn y Brifwyl
- Cyhoeddwyd
Athrawes o Sir Gaerfyrddin sydd wedi ennill Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.
Yn wreiddiol o Lanybydder, mae Heiddwen Tomos yn byw ym Mhencarreg, Sir Gaerfyrddin ac yn bennaeth Cyfadran y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Mae'n briod â Siôn ac mae ganddyn nhw dri phlentyn, Gruff, Swyn a Tirion.
Gan ddefnyddio'r ffugenw Twm Shwgryn, ei drama Milwr yn y Meddwl, sy'n ymdrin â salwch PTSD, ddaeth i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o geisiadau.
Yn dilyn y seremoni dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dwi wedi trio cau fy ngheg a dweud dim am ennill wrth neb - dim wrth y plant na'r fam hyd yn oed - ond nawr bod e mas mae'n brofiad pleserus.
"Fi'n falch ei bod yn feirniadaeth neis, ond mae'n wych cael un adeiladol hefyd. Mae'n amser cyffrous yn bendant. Rwy'n edrych 'mlaen at weithio â rhywun sy'n gwybod mwy na fi am roi sioe ar lwyfan. Fe wnaeth hi ddatblygu o fod yn fonolog i ddrama pedwar llais, ac rwy'n gobeithio bod lle i gyfarwyddwr roi ei stamp ei hunan arni hefyd."
Bu Heiddwen yn agos at gipio'r Fedal yn y gorffennol, gan ddod yn ail yn 2014 ac yn drydydd y llynedd a 2013. Ond eleni, hi oedd yr enillydd ac fe'i hanrhydeddwyd yn y seremoni ar lwyfan y Pafiliwn.
Y beirniaid eleni oedd Siân Summers, Sara Lloyd a Tony Llewelyn Roberts, ac wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran y tri, dywedodd Tony Roberts: "Mae'n braf gweld cymaint yn fodlon mynd ati i ymroi o'u hamser i dasg sydd yn anodd ac yn aml iawn ddim yn cael mwynhau mynegiant llawn eu llafur, sef cael gweld y gwaith yn ei ffurf derfynol, ar lwyfan.
"Mae cerdd yn gerdd o'r eiliad mae'n mynd ar bapur ond mae drama lwyddiannus yn dibynnu ar ymroddiad a gweledigaeth artistiaid eraill er mwyn ei dangos yn ei ffurf derfynol.
"Fel beirniaid roeddem yn ymwybodol iawn mai pwyso a mesur y cam cyntaf mewn proses o greu oeddem ni. Roeddem yn chwilio am waith gan unigolion oedd yn berchen yr hanfodion sylfaenol i ddeialogi a llwyfannu eu syniadau ond hefyd roeddem yn gobeithio cael ein cyflwyno i wreiddioldeb mynegiant ac, os nad campwaith, o leiaf egin weledigaeth a ellid ei meithrin a'i mireinio.
'Cyflwyniad grymus'
Wrth sôn am waith Twm Shwgryn, dywedodd: "Dyma ddrama â chyflwyniad theatraidd a grymus. Mae'n ymwneud a salwch PTSD sydd yn dilyn cyfnod y prif gymeriad fel milwr gweithredol yn rhai o ryfeloedd mwyaf ffyrnig a ffiaidd y blynyddoedd diwethaf. Dilynwn ef wrth iddo geisio ymdopi gyda bywyd dinesydd cyffredin wedi iddo gael ei anafu a'i ddal mewn cadair olwyn.
"Mae'r ieithwedd yn llifo'n naturiol drwyddi draw. Mae yma dalpiau helaeth o fratiaith ac mae 'na ddefnydd o'r Saesneg ond nid diogi ieithyddol sydd yma. Cai'r Saesneg ei ddefnyddio fel llais y sefydliad milwrol Prydeinig sydd wedi gorthrymu'r prif gymeriad. Mae'r fratiaith yn adlewyrchu'r ffordd y mae aml i gymuned a haenau o gymdeithas yn y Gymru gyfoes yn defnyddio'r iaith.
"Os yw hynny'n drist, mae hefyd yn realistig, ac os mai pennaf fwriad drama yw codi drych at natur, yna'n sicr mae Twm Shwgryn yn gwneud hynny. Mae ganddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth glir o theatr ac o'r hyn sydd yn gweithio yn y cyfrwng.
Ychwanegodd Tony Roberts: "Gan fod y gystadleuaeth yn gofyn am ddrama 'sydd yn dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i'w datblygu ymhellach o gael cydweithio gyda chwmni proffesiynol' yn ôl y testunau, gallwn fod yn ffyddiog y bydd ein henillydd heddiw yn cael y cyfle dros y flwyddyn nesaf i adnabod a chryfhau'r gwendidau, datblygu ac amlygu'r cryfderau, i arbrofi gyda ffurfiau amgen o fynegiant ieithyddol ac ymestyn a mwynhau'r gwaith sydd eisoes wedi dod a hwy i'r fan hyn."
Enillodd Heiddwen Tomos y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Llambed yn 2012, cystadleuaeth stori fer Taliesin a'r BBC yn 2015, ac chipiodd Gadair Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ddwywaith. Eleni, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Dŵr yn yr Afon (Gwasg Gomer), ac mae hefyd wedi cyhoeddi straeon i Wasg y Bwthyn.