Angen i Blaid Cymru 'wella'i gêm' medd Simon Thomas
- Cyhoeddwyd
Dydy carfan Plaid Cymru yn y Cynulliad "ddim yn perfformio fel y gallai ei wneud" ac mae angen iddi "wella'i gêm," yn ôl un o Aelodau Cynulliad y blaid.
Daeth sylwadau Simon Thomas yn sgil cwestiynau newydd am arweinyddiaeth Plaid Cymru a galwadau ar i'r arweinydd presennol ildio'r awenau.
Ar faes yr Eisteddfod dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth y byddai e'n ystyried ceisio olynu Leanne Wood ar ôl iddi hi roi'r gorau i'r swydd.
Yna dywedodd un arall o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru - nad oedd am gael ei enwi - ei bod hi'n bryd i'r blaid gynnal ras arweinyddiaeth a bod Ms Wood wedi colli awdurdod o fewn y grŵp ym Mae Caerdydd.
'Ddim cystal â gallen ni fod'
Dywedodd Mr Thomas: "Be fyddwn i'n licio i'r blaid ganolbwyntio arno nawr yw'r cwestiwn arweinyddol sydd gennym ni sydd ddim yn troi o gwmpas un person fel arweinydd ond y cwestiwn, 'a ydyn ni'n perfformio fel grŵp Cynulliad cystal â gallwn ni fod?'
"Dwi ddim yn meddwl ein bod ni, felly mae'n rhaid i ni - bob un ohonon ni - wella'n gêm."
Dywedodd yr aelod dros y Canolbarth a'r Gorllewin hefyd ei bod hi'n naturiol bod cwestiynau am arweinyddiaeth yn codi rhwng etholiadau.
"Mae hwnna jest mor amlwg i fi," meddai.
"Dyw hwnna ddim yn dweud unrhyw beth o blaid neu yn erbyn unrhyw berson, mae e jest yn amlwg bod hwnna'n mynd i fod yn rhan o'r drafodaeth.
"Os oes rhywun yn teimlo y gallen nhw fod yn well arweinydd na Leanne Wood, dylen nhw sefyll a defnyddio prosesau'r blaid i wneud hynny'n hytrach na dweud pethau'n ddienw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017