Ymchwiliad i ddigwyddiad 'peryglus' mewn gorsaf drenau
- Cyhoeddwyd
Mae'r awdurdodau yn ymchwilio i ddigwyddiad "peryglus" mewn gorsaf drenau yn Sir Fynwy.
Ar 28 Gorffennaf, fe wnaeth trên oedd yn teithio i gyfeiriad y gogledd dynnu ar wifrau trydan oedd wedi dod yn rhydd o bont droed dros y cledrau yng ngorsaf Y Fenni.
Cafodd y gwifrau, oedd yn dargludo trydan i flwch signal gerllaw, eu tynnu gan y trên nes iddyn nhw dorri o dan y pwysau.
Cafodd rhai o adeiladau ac offer yr orsaf eu difrodi, ac fe gafodd rhai o'r bobl oedd ar y platform ar y pryd fan anafiadau.
Gobaith ymchwilwyr ydy darganfod beth yn union achosodd i'r gwifrau ddod yn rhydd yn y lle cyntaf, a bod y prosesau sy'n cael eu defnyddio gan weithwyr rheilffordd yn ddigonol i ddiwallu anghenion cynnal a chadw'r rheilffyrdd.
Anafiadau
Roedd Georgia Davies, 17 oed, o Bont-y-pŵl, yn yr orsaf gyda thri o'i ffrindiau yn ystod y digwyddiad.
Eglurodd ei thad, Allun Davies, ei fod wedi derbyn galwad ffôn gan ei ferch yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd: "Cafodd Georgina ei tharo ar ei phen, ei chefn, a'i braich, ac fe gafodd dau o'i ffrindiau anafiadau.
"Bu bron i un o'i ffrindiau a chael ei tharo gan fin, ac mi gafodd ffrind arall ei llusgo gan y cebl."
Dywedodd Mr Davies ei fod yn rhyddhad y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r hyn a ddigwyddodd, ac ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai "gwersi yn cael eu dysgu".