Lluniau: Sioe Môn 2017
- Cyhoeddwyd
Mae'r torfeydd yn heidio i Ynys Môn unwaith eto'r wythnos yma, ond ar gyfer steddfod yr anifeiliaid y tro hwn. Mwynhewch luniau'r Primin!


Ymarfer munud olaf i Cian a Casi o Lannerch-y-medd cyn dangos eu hanifail

Dau gi bach wedi dod am dro - Pwt a Moi o Lanllyfni

Un o bencampwyr y prif gylch

Ffrind i Wil Cwac Cwac Cwac? Alaw o Lanfachraeth wedi bachu hwyaden (gyda help mam)

Pwyso a mesur y defaid Suffolk

Tri cheffyl bach...

Zoe o Lanfair-yng-Nghornwy yn dod nôl i'r sied ar ôl cael y drydedd wobr mewn cystadleuaeth i ddangoswyr ifanc

Llwyddiant

Elen a Sam yn mwynhau diwrnod yn y sioe gyda'u nain, Jill

Golygfa braf tuag at fynyddoedd Eryri yn y caeau bywyd gwledig

Mae Harri'n gobeithio y bydd y tei yma gafodd o gan Siôn Corn yn dod â lwc iddo wrth ddangos ei oen

Pa un yw'r un iawn?

Mae'r ceffyl a'i dywysydd wedi ym-bincio ar gyfer yr achlysur - Leah o Landdaniel a'i cheffyl hanner brîd Cymreig, O Fôn Romance

Mae Kala Bentley o Drefor, Ynys Môn, wedi gwneud ffrind newydd

Dyfan o Fodedern yn hedfan yn uchel yn y ffair

Ydy tylluanod yn trydar?

Ai dyna liw naturiol dafad Texel?

Gweld sêr wrth i'r maes brysuro yn y p'nawn