Canlyniadau: 'Peidiwch rhoi pwysau diangen ar blant'
- Cyhoeddwyd
Mae elusen wedi rhybuddio rhieni i beidio â rhoi "pwysau diangen" ar eu plant wrth i bobl ifanc ar draws y wlad aros am ganlyniadau arholiadau.
Dywedodd NSPCC Cymru fod mis Awst yn gyfnod prysur tu hwnt i'w gwasanaeth Childline, gan ei bod hi'n "gyfnod pryderus" i'r rheiny sydd ar fin cael eu graddau.
Fe wnaeth Childline ddarparu 1,133 o sesiynau cwnsela i bobl ifanc ar draws y DU oedd yn poeni am arholiadau yn 2016/17, cynnydd o 21% mewn dwy flynedd.
Roedd 112 o'r galwadau hynny wedi mynd i ganolfannau'r elusen yng Nghaerdydd a Phrestatyn, ond roedd y ffigwr hwnnw yn ostyngiad ar y 139 a gafwyd yn 2015/16.
'Cyfnod gofidus'
Er hynny, mae'r elusen wedi rhybuddio fod llawer yn cysylltu gyda nhw am eu bod yn poeni am effaith graddau is ar eu siawns o fynd i'r brifysgol.
Maen nhw hefyd wedi galw ar rieni i fod yn "gefnogol" yn hytrach na rhoi gormod o bwysau ar eu plant i gyrraedd safon benodol.
"Mae aros am ganlyniadau arholiadau yn gallu bod yn gyfnod gofidus i bobl ifanc ac mae rhai yn ei chael hi'n anodd ymdopi," meddai pennaeth NSPCC Cymru, Des Mannion.
Ychwanegodd: "Hoffwn annog pobl ifanc i beidio â digalonni os nad ydyn nhw'n cael y canlyniadau roedden nhw wedi gobeithio'u cael. Mae'n bwysig cofio fod ganddyn nhw lawer o opsiynau, ac y gallai siarad â ffrind neu oedolyn maen nhw'n ymddiried ynddo eu helpu i sylweddoli hyn."