Ymgynghori ar ehangu ffyrdd ger gorsaf Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
WylfaFfynhonnell y llun, Horizon

Mae cynlluniau i ddatblygu'r ffyrdd o amgylch safle gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa Newydd ar Ynys Môn wedi eu cyhoeddi.

Gobaith datblygwyr yr orsaf gwerth £10bn ydy dechrau ar y gwaith adeiladu erbyn 2020, ond mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau caniatâd yn gyntaf.

Fe fydd gan bobl gyfle i leisio eu barn ar gynlluniau i ehangu ffordd yr A5025 rhwng y Fali a Wylfa mewn ymgynghoriad newydd.

Dywed cwmni Horizion y byddai'r gwaith paratoi cyn adeiladu yn cwtogi'r cyfnod adeiladu yn y pen draw.

Mae mudiad gwrth-niwclear Pobl Atal Wylfa B (PAWB) yn gwrthwynebu datblygiad Wylfa Newydd, gan gwestiynnu'r dechnoleg y tu ôl i'r orsaf, a diogelwch y diwydiant niwclear yn gyffredinol.

Ehangu A5025

Dyma'r pedwerydd ymgynghoriad ar gyfer y safle newydd gan gwmni Horizon - sy'n eiddo i Hitachi Ltd - ac mae'n cynnwys cynlluniau i wella croesffyrdd i feicwyr a cherddwyr ar y safle.

Cafodd cynlluniau i ehangu, ailadeiladu a gosod wyneb newydd ar ffordd yr A5025 eu cyhoeddi'n gyntaf yn 2016, ac mae'r ymgynghoriad newydd yn cynnwys mân newidiadau yn dilyn ymatebion gan y cyhoedd.

WYlfa NewyddFfynhonnell y llun, Wylfa Newydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r gwaith o adeiladu'r orsaf ddechrau yn 2020 os bydd caniatad cynllunio'n cael ei roi

Dywedodd Richard Foxhall o gwmni Horizon y byddai cwblhau'r cynlluniau yn yr ymgynghoriad cyn derbyn caniatâd cynllunio terfynol ar gyfer y safle yn cyflymu'r broses.

"Mae'r rhain yn ddarnau pwysig o waith sydd angen i ni eu cwblhau cyn i ni ddechrau ar y cam cyntaf o adeiladu Wylfa Newydd," meddai.

"Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n cynlluniau gwreiddiol ar gyfer paratoi'r safle a gwelliannau i'r ffyrdd, ac rydym yn awyddus i bobl leol gael cyfle i weld beth sy'n newydd a rhannu eu barn gyda ni."

Gobaith cwmni Horizon ydy cyflwyno cais cynllunio ar gyfer yr orsaf newydd i Gyngor Môn yn ddiweddarach eleni.

Pan fydd wedi agor, y disgwyl ydy y bydd Wylfa Newydd yn creu 850 o swyddi llawn amser ac fe fydd yn dechrau cynhyrchu ynni erbyn 2025.