Becky James yn ymddeol o seiclo yn 25 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Becky James, sy'n gyn enillydd medalau arian yn y gemau Olympaidd, wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol yn 25 oed.
Mae'r athletwr o Gymru yn bwriadu sefydlu busnes pobi yn ogystal â "ymgymryd â rhai prosiectau eraill cyffrous".
Fe ddaeth i'r amlwg am y tro cyntaf wrth gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi, gan ennill medal arian yn y sbrint yn ogystal ag efydd yng nghystadleuaeth yn erbyn y cloc.
Enillodd James ei theitlau byd yng nghystadleuaeth y sbrintio a'r keirin yn 2013, ac fe enillodd y medalau arian yn yr un campau yng Ngemau Olympaidd Rio 2016.
Mae James wedi dioddef nifer o anafiadau yn ystod ei gyrfa, ac fe ddioddefodd pryderon am ei hiechyd yn 2014, pan ddarganfuwyd lefelau anarferol o gelloedd gwyn y ei chorff yn dilyn sgrinio serfigol.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar ei chyfrif Twitter, dywedodd James ei bod hi'n ddiolchgar am ei llwyddiant, ond ei bod yn amser symud ymlaen.
"Rydw i wedi cael amser i feddwl am fy nyfodol a phenderfynu ymddeol o rasio sbrint a thrac rhyngwladol" meddai.