Cerflun o forfil mawr plastig yn dod i Fae Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd y rhwyfwr Olympaidd, James Cracknell yno i ddadorchuddio'r morfil ym Mae Caerdydd
Mae morfil wedi'i wneud o blastig mae modd ei ailgylchu wedi cyrraedd Bae Caerdydd ddydd Sul, fel rhan o daith o amgylch y DU.
Mae'r cerflun 10 metr o daldra yn rhan o ymgyrch i annog y cyhoedd i ddefnyddio llai o blastig.
Daw yn dilyn ymchwil annibynnol gan ymgyrch Sky Ocean Rescue, wnaeth ddarganfod bod 87% o Brydeinwyr yn bryderus am ddefnydd y DU o blastig.
Dywedodd 65% o'r 2,000 o bobl gafodd eu holi fel rhan o'r ymchwil y byddan nhw'n hapus gweld ffi o bum ceiniog, tebyg i'r un ar gyfer bagiau plastig, yn cael ei ymestyn i blastigion eraill fel poteli a chwpanau.
Bydd morfil Sky Ocean Rescue ym Mae Caerdydd rhwng 10:00 a 15:00 ddydd Sul.

Mae'r morfil ar daith o amgylch y DU