Prawf syndrom Down newydd, mwy diogel i fenywod beichiog
- Cyhoeddwyd
Bydd prawf newydd mwy diogel yn cael ei gynnig i fenywod yng Nghymru er mwyn profi am syndrom Down yn ystod beichiogrwydd.
Yn ystod y prawf newydd - prawf NIPT - caiff sampl o waed ei ddadansoddi mewn labordy.
Fe fydd y prawf yn cael ei gynnig fel opsiwn ychwanegol i fenywod sy'n derbyn y sgrinio sylfaenol presennol ac sydd wedi cael gwybod bod yna risg o syndrom Down, Edwards neu Patau.
Mae'r rhaglen sgrinio bresennol yn cynnig nifer o wahanol brofion sgrinio sylfaenol i fenywod beichiog er mwyn dod o hyd i rai o'r cyflyrau a allai effeithio ar y fam neu'r babi.
Mae un o'r profion sgrinio hyn yn gallu dangos y posibilrwydd o gael babi sydd â syndrom Down.
Os yw'r posibilrwydd yn cyfateb i 1 allan o 150 neu'n uwch, caiff hyn ei ystyried fel bod yna fwy o risg, ond ar hyn o bryd yr unig opsiwn sy'n cael ei gynnig yw prawf mewnwthiol i gadarnhau'r diagnosis.
Mae risg bach y gellid colli'r babi drwy gael y profion diagnostig mewnwthiol hyn.
Fe fydd prawf NIPT yn cael ei gynnig fel opsiwn ychwanegol i'r prawf mewnwthiol, ac i'r menywod sy'n cael canlyniad negyddol, ni fydd angen unrhyw brofion pellach.
Mae disgwyl y bydd un neu ddau o fabanod yng Nghymru yn cael eu hachub rhag cael eu colli o ganlyniad i gyflwyno'r prawf NIPT, fydd yn cael ei gyflwyno yn 2018.
Lleihau'r posibilrwydd o niwed
Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans: "Rydyn ni am sicrhau bod pob menyw feichiog yng Nghymru yn cael yr wybodaeth, y cyngor, a'r cymorth angenrheidiol drwy gydol ei beichiogrwydd. Mae ein rhaglen sgrinio gynenedigol yn chwarae rôl bwysig yn hyn."
Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi derbyn argymhellion pwyllgorau sgrinio i gyflwyno'r prawf newydd, ac ychwanegu sgrinio ar gyfer syndrom Edwards a Patau a sgrinio lle mae menywod yn disgwyl gefeilliaid.
Dywedodd: "Mae NIPT yn fwy cywir na'r profion sylfaenol a ddefnyddir ar hyn o bryd.
"Bydd cael canlyniad NIPT negyddol yn rhoi'r sicrwydd y mae ei angen ar fenywod beichiog, heb angen prawf diagnostig mewnwthiol pellach - gan leihau'r posibilrwydd o niwed diangen a cholli babi a allai ddigwydd yn sgil defnyddio profion o'r fath."