Heddlu'n ehangu cynllun camerâu gyrru wedi peilot
- Cyhoeddwyd

Mae'r fideos yn gallu cael eu defnyddio i erlyn gyrwyr
Bydd heddluoedd Cymru yn annog gyrwyr sy'n defnyddio camerâu fideo yn eu cerbydau i anfon fideos sy'n dangos pobl yn gyrru'n beryglus atyn nhw.
Mae poblogrwydd dashcams wedi cynyddu yn ddiweddar, gyda nifer o yrwyr yn defnyddio'r lluniau i brofi pwy sydd ar fai os oes gwrthdrawiad.
Yn dilyn cynllun peilot gan Heddlu Gogledd Cymru oedd yn gofyn i yrwyr rannu unrhyw fideo o yrru'n beryglus, bydd gweddill heddluoedd Cymru nawr yn gwneud yr un peth.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod 129 o achosion wedi eu dilyn gan swyddogion yn y peilot 12 mis.
'Gwella diogelwch ffyrdd'
Mae ystadegau gan yr AA ac AXA yn dangos bod 15% o yrwyr gafodd eu holi yn defnyddio'r camerau, a'r un canran eto yn ystyried dechrau eu defnyddio.
Mae rhai cwmnïau yswiriant hefyd yn cynnig gostyngiad ym mhris polisi yswiriant i yrwyr sy'n eu defnyddio.
Dechreuodd Heddlu Gogledd Cymru yr ymgyrch y llynedd i ddelio gyda'r nifer uwch o fideos oedd yn cael eu gyrru gan y cyhoedd.
Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn derbyn tri neu bedwar fideo y dydd ar gyfartaledd, a hyd at 10 ar benwythnos.
Bydd y cynllun yn cael ei ehangu i weddill Cymru fis nesaf.

Mae rhai cwmnïau yswiriant yn cynnig gostyngiad i yrwyr sy'n defnyddio'r camerau

Dywedodd yr Arolygydd Dave Cust bod 129 o achosion wedi eu dilyn yn y cynllun peilot
Dywedodd yr Arolygydd Dave Cust o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydyn ni wedi ei dreialu am 12 mis erbyn hyn, a 129 o achosion wedi eu dilyn, sy'n rif sylweddol.
"Rydyn ni wedi cyflwyno hynny mewn cyfarfod drwy Gymru, a byddwn ni'n symud ymlaen i gynnwys Cymru gyfan, felly os ydych chi yng Nghaerdydd neu gogledd Cymru, does dim bwys, bydd y broses yr un peth drwy wefan GoSafe."
Ysbïo?
Mae rhai grwpiau yn dadlau bod y fideos yn codi problemau preifatrwydd, a bod yr heddlu yn defnyddio gyrwyr i ysbïo ar ei gilydd.
Gwrthod hynny wnaeth yr Arolygydd Cust: "Dwi'n gweld o fel gwella diogelwch ffyrdd.
"'Da ni gyd yn gyrru ar y ffyrdd yma a 'da ni gyd eisiau mynd o A i B yn ddiogel.
"Os yng nghefn eich meddwl rydych chi'n meddwl bod gan y car y tu ôl gamera, a falle na ddyle chi fod yn pasio car, yna pam ddim?"
Er bod y lluniau yn gallu bod yn dystiolaeth i erlyn gyrrwr, nid yw'r heddlu'n gallu dilyn achosion os yw'r fideo eisoes wedi ei chyhoeddi ar wefan gymdeithasol.