Newidiadau iechyd: 'Cleifion ar eu colled' yn ôl AC
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad wedi rhybuddio y gall cleifion fod ar eu colled o dan gynlluniau iechyd newydd gan Lywodraeth Cymru.
Mae gweinidogion yn ystyried cael gwared â Chynghorau Iechyd Cymunedol a sefydlu un corff cenedlaethol.
Fe fyddai newid o'r fath yn "gwanhau" llais y claf, yn ôl AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llŷr Huws Gruffydd.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud mai'r nod ydy cryfhau'r cysylltiad rhwng unigolion a'r gwasanaeth iechyd.
'Llai effeithiol'
Nod y Cynghorau Iechyd Cymunedol ydy cynrychioli buddiannau cleifion. Mae yna saith yng Nghymru - un ym mhob bwrdd iechyd.
Mae'r cynlluniau wedi eu hamlinellu mewn papur gwyn gan y llywodraeth, gyda'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ddiwedd mis Medi.
Dywedodd Mr Gruffydd: "Fe fydd y corff newydd - os ydy o'n gorff cenedlaethol yn lle'n gyfres o gyrff rhanbarthol - yn bellach oddi wrth y bobl, yn bellach oddi wrth y cleifion, yn bellach oddi wrth y gwasanaeth.
"Ac yn anochel wedyn fyddan nhw'n llai effeithiol yn rhoi mynegiant i ofidiau a chonsyrn cleifion lleol.
"Felly gwanychu a gwanhau llais y claf fydd yr unig ganlyniad."
'Cryfhau ymgysylltiad'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Papur Gwyn yn nodi nifer o gynigion integredig o gwmpas ansawdd a llywodraethu mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a dylid eu gweld fel pecyn.
"Y nod yw cryfhau ymgysylltiad dinasyddion ar draws iechyd a gofal cymdeithasol trwy drefniadau newydd a fyddai'n gorfod gweithio'n genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol, gyda phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol.
"Mae'r Papur Gwyn yn cynnig corff cenedlaethol newydd a fyddai wedyn yn gallu penderfynu sut mae'n gweithredu'n lleol.
"Mae'n amlwg bod angen i ni sicrhau bod rhaid i unrhyw gorff llais cyhoeddus allu cyrraedd y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a byddwn yn edrych yn ofalus ar sut y dylid gwneud hyn o dan unrhyw drefniant newydd."