Cyhuddo Maer Penfro o droseddau rhyw hanesyddol
- Cyhoeddwyd
Mae Maer Penfro wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol yn dyddio 'nôl dros 20 mlynedd.
Bydd y cynghorydd Ceidwadol David Boswell, 56, yn ymddangos o flaen llys ynadon fis nesaf.
Mae'r cyhuddiadau yn ei erbyn - chwe ymosodiad rhyw ac un cyhuddiad o drais - yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 1991 ac 1994.
Roedd y ddau ddioddefwr yn iau na 13 oed pan ddigwyddodd yr ymosodiadau honedig.
'Mater i'r heddlu'
Cafodd ei ethol yn gynghorydd yn ward Penfro Llanfair Gogledd ym mis Mai gyda mwyafrif o chwe phleidlais.
Mae wedi gwasanaethu gyda'r fyddin am 12 mlynedd ac yn gadlywydd gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol.
Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wedi dweud fod David Boswell wedi ei wahardd o'r blaid.
Mae Cyngor Sir Penfro yn dweud mai mater i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yw'r achos, ac nad ydyn nhw yn gallu gwneud unrhyw sylw arall ar hyn o bryd.
Dywedodd y llefarydd eu bod yn parhau i adolygu eu holl fesurau amddiffyn plant wrth ddisgwyl casgliad unrhyw erlyniad.