Fydd Gwyn yn dal y pwysau?
- Cyhoeddwyd
Beth fyddwch chi yn ei wneud y penwythnos yma? Go brin y bydd 'na nifer fawr ohonoch chi'n cario teiars enfawr a chodi pwysau rhyfeddol o drwm, ond dyna fydd yn wynebu Cymro o Lanharan.
Mae Gwyn James yn cynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth World's Natural Strongest Man yn Hämeenlinna, Y Ffindir.
Gwyn sy'n sôn am ei brofiad a'r hyn sy'n ei wynebu:


Er fod pawb wedi clywed am World's Strongest Man, dydy llawer o bobl ddim wedi clywed am y fersiwn 'naturiol' o'r gystadleuaeth o'r blaen. Yn hwn, mae'r cystadleuwyr yn cael eu profi am gyffuriau ac mae'n cael ei gefnogi gan y World Anti-Doping Agency (WADA).
Dwi wedi bod yn cystadlu mewn cystadlaethau cryfder ers pum mlynedd - y rhai 'naturiol' a'r rhai ble nad yw pobl yn cael eu profi, ac mae'n bendant well gen i'r cystadlaethau ble nad oes cyffuriau.
'Dych chi i gyd ar yr un lefel yma, heb y cyffuriau, a ti'n gorfod dibynnu ar dy sgiliau a chryfder naturiol dy hun. Does dim esgus - os wyt ti'n colli, alli di ddim dweud "wel, mae oherwydd fod y boi 'na wedi cymryd steroids", felly mae hyn yn dy wthio di i weithio'n galetach.
Eleni yn wahanol
Dwi'n cystadlu mewn rhyw ddwy neu dair cystadleuaeth y flwyddyn, ond yn y gorffennol, ro'n i bob amser mewn categori pwysau uwch, ac un oedd ddim wir yn gweddu i mi.
Roedd gan rai o'r cystadleuwyr eraill fantais o bron i ddwy stôn drosta i ar adegau, ac oherwydd hynny, dydw i erioed wedi mynd ymlaen i'r rowndiau terfynol o'r blaen.
Ond eleni, roedd 'na gategori pwysau ysgafnach, sef o dan 80kg, sydd yn llawer mwy addas, ac felly am y tro cyntaf, fi oedd â'r fantais dros fy nghyd-gystadleuwyr.
Roedd rownd gyntaf y twrnamaint, sef rownd Cymru, yn y gwanwyn, a fi oedd yr unig Gymro i fynd i'r rownd nesaf yn fy nosbarth pwysau. Es i 'mlaen wedyn i Britain's Natural Strongest Man yn Newcastle ym mis Gorffennaf.

Ro'n i yn y pedwerydd safle wrth fynd i mewn i'r dasg ddiwethaf, ond yn anffodus, 'naeth pethau ddim gweithio mas a ddes i'n chweched. Dim ond pump oedd yn cael mynd ymlaen i rownd y byd yn Y Ffindir, felly ro'n i'n eithaf siomedig i fod yn onest.
Ond ges i alwad ffôn annisgwyl pythefnos yn ôl yn dweud fod un o'r pum cystadleuydd wedi gorfod tynnu mas oherwydd anaf, ac ro'n i'n cael y cyfle i fynd 'mlaen, os o'n i moyn e. Wrth gwrs - cyfle rhy dda i'w golli!
Falch o gael y cyfle
Dwi'n edrych 'mlaen i hedfan mas i Hämeenlinna i gystadlu yn y gystadleuaeth enfawr 'ma. Do'n i ddim wedi bod yn hyfforddi yn y dair wythnos ers y gystadleuaeth ddiwethaf cyn cael yr alwad ffôn, felly dwi wedi gorfod gwneud llawer o waith i ddadwneud hyn.
Bydd pedwar digwyddiad ar y dydd Sadwrn, yn cynnwys tynnu tryc a chodi a gwthio pwysau enfawr. Bydd y chwech uchaf yna yn symud ymlaen i gystadlu mewn tri digwyddiad arall ar y dydd Sul.

Dydw i ddim yn ffyddiog iawn y bydda i'n cyrraedd yr ail ddydd, a dweud y gwir, yn bennaf oherwydd y bwlch yn fy hyfforddi a'r ffaith fod yna gymaint yn cystadlu - hyd at bum cystadleuydd o rhyw saith neu wyth gwlad.
Ond dwi mor falch o gael y cyfle i fynd yno - dwi'n ei weld fel profiad da i gael deall y gystadleuaeth yn well, ymgyfarwyddo â'r lle (gan mai yno mae'r gystadleuaeth bob blwyddyn) a dod i 'nabod y cystadleuwyr eraill.
Bydd hyn yn fy mharatoi ar gyfer dod yn ôl flwyddyn nesaf. A fi yw'r Cymro cyntaf i gyrraedd y rownd yma yn y pwysau yma, a dwi mor falch o hynny - mae am fod yn brofiad arbennig iawn!