Cyrraedd targed ailgylchu pedair blynedd yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
AilgylchuFfynhonnell y llun, Empics

Mae targed o ailgylchu 64% o wastraff yng Nghymru erbyn 2019/20 wedi cael ei gyrraedd pedair blynedd yn gynnar.

Mae data dros dro ar gyfer y 12 mis hyd at Fawrth 2017 yn dangos cynnydd o 4% o'i gymharu â chyfradd y flwyddyn flaenorol - 60%.

Mae Cymru ar y blaen i weddill y DU gyda'i chyfradd ailgylchu, yn ail yn Ewrop ac yn drydydd trwy'r byd.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, bod y ffigyrau yn "galonogol iawn".

Dim gwastraff erbyn 2025

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau statudol ar gyfer ailgylchu, ac mae'n rhaid i gynghorau eu cyrraedd neu wynebu dirwyon.

Y targed ar gyfer 2016/17 oedd 58%, yn codi i 64% erbyn 2019/20 a 70% yn 2024-25.

Erbyn 2050 mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio na fydd unrhyw wastraff o gwbl yn mynd i gladdfeydd sbwriel.

Mae'r ffigyrau dros dro yn dangos bod pob cyngor heblaw un - Blaenau Gwent - wedi cyrraedd y targed ar gyfer 2016/17.

Ceredigion oedd â'r gyfradd uchaf, gan ailgylchu 70% o'i wastraff a chyrraedd targed 2025 naw mlynedd yn gynnar.

Wrecsam a Sir Fynwy oedd yn yr ail safle ar 69%.

Er i Blaenau Gwent fethu'r targed o 58%, roedd eu cyfradd (57%) yn gynnydd sylweddol o'r flwyddyn flaenorol (49%).

'Arwain y ffordd'

Dywedodd Mr Griffiths y dylai Cymru fod yn "falch iawn o'n perfformiad ailgylchu".

"Mae hwn yn ardal ble ry'n ni'n arwain y ffordd yn y DU, ac yn wir, dim ond dwy wlad yn yr holl fyd sy'n ailgylchu mwy na ni," meddai.

Mae ffigyrau o 2015 yn dangos bod cyfradd ailgylchu Lloegr ar 43.9% a'r Alban ar 44.2%.