Galw am wersi iechyd meddwl gorfodol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Dylai gwersi am iechyd meddwl ac emosiynol fod yn orfodol ymhob ysgol uwchradd yng Nghymru, yn ôl un elusen blaenllaw.
Dywedodd Samaritans Cymru y dylai disgyblion ddysgu sut i ymdopi gyda hynt a helynt bywyd a medru gofyn am gefnogaeth emosiynol er mwyn lleihau straen a dileu'r stigma am iechyd meddwl.
Bu pum ysgol uwchradd yng Nghaerdydd yn rhan o gynllun peilot gyda'r gwersi'n cael eu paratoi gan yr elusen.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n gwneud cyhoeddiad ar y mater yn fuan.
'Cyfle euraidd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Wrth i ni symud ymlaen i ddatblygu cwricwlwm newydd, fe fyddwn yn ystyried sut y gall y sectorau addysg ac iechyd gefnogi pob disgybl i fod yn unigolion iach a hyderus.
"Mae'r Ysgrifenyddion Addysg a Iechyd wedi bod yn ystyried cryfhau cadernid emosiynol a iechyd meddwl o fewn ysgolion, ac fe fydd cyhoeddiad ffurfiol yn dilyn maes o law."
Ar hyn o bryd mae Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn orfodol i bob disgybl rhwng 7-16 oed, ac yn delio gydag ystod eang o faterion gan gynnwys addysg rhyw, amrywiaeth a datblygiad ysbrydol.
Ond mae Samaritans Cymru yn dweud bod gwersi iechyd meddwl ac emosiynol yn aml yn cael eu hepgor, a bod athrawon yn bryderus am ddefnyddio termau anghywir wrth siarad am iechyd meddwl.
Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru, Sarah Stone: "Rhaid i ni sefydlu dull iechyd cyhoeddus wrth drafod iechyd meddwl drwy rhoi'r sylw pennaf ar atal afiechyd yn hytrach na'i drin yn unig.
"Mae buddsoddi mewn atal afiechyd ac ymyrraeth gynnar yn gallu lleihau costau ariannol, dynol a chymdeithasol.
"Gyda hanner problemau iechyd meddwl yn dechrau cyn i berson gyrraedd 14 oed, mae'r achos o blaid y dull yma yn glir - blynyddoedd ysgol yw'r cyfle euraidd i roi'r sgiliau angenrheidiol i blant a phobl ifanc."
Cynllun peilot mewn ysgolion
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae athrawon Ysgol Arbennig Greenhill, Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Uwchradd Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Corups Christi wedi bod yn rhan o gynllun peilot gan ddefnyddio adnoddau dysgu wedi eu darparu gan yr elusen.
Dywedodd Laura-Cerys Williams, sy'n dysgu yn Ysgol Uwchradd Fitzalan: "Roedd disgyblion yn mwynhau'r gwersi, ac roedd y staff yn eu gweld yn rhwydd iawn i roi'r gwersi.
"Wedi'r cynllun peilot, mae gan y myfyrwyr ymwybyddiaeth well o iechyd meddwl.
"Rydym yn bwriadu parhau i ddefnyddio rhai o'r adnoddau yn ein gwersi i flynyddoedd saith, wyth a naw."