Ateb y Galw: Huw 'Fash' Rees
- Cyhoeddwyd

Y cyflwynydd a'r steilydd Huw 'Fash' Rees sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Owain Wyn Evans wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf yw mynd yn y car gyda nheulu a ffrindiau i barc Rhydaman. Fi'n cofio oherwydd agorodd drws y car ac Alison, croten ffrindiau Mam a Dad, yn cwympo mas o'r car. Siom oherwydd i ni fyth gyrraedd y parc...
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Gil Gerard sef y prif gymeriad yn Buck Rogers in the 25th Century - wow!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Y cywilydd mwyaf erioed oedd canu deuawd gyda Delyth fy chwaer yng nghyfarfod pencwarter yn ifanc. Delyth yn gwrthod rhannu'r llyfr emynau a finne heb ddysgu'r geiriau... 'nes i lefain a chuddio dan fwrdd y sedd fawr!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
'Nes i grïo yn ddiweddar wrth weld lluniau trychinebus ffoaduriaid, yn cynnwys nifer o blant bach, oedd wedi boddi wrth geisio dianc a chwilio am loches.

Roedd Huw Stephens ar ben ei ddigon ar ôl cael Sash Huw Fash yn seremoni BAFTAs Cymru y llynedd
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Yfed lot gormod o goffi. Fi wrth fy modd â cafetiere ben bore a gwagau'r cyfan cyn 7.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Fy hoff le yng Nghymru yw capel yr Hen Fethel. Fan hyn claddwyd fy nhad ac mae'n brofiad emosiynol ymweld â'r bedd tra'n gwylio golygfa godidog y cwm lle ganwyd fy nhad. Fi hefyd yn mynychu'r oedfa yno ben bore dydd Nadolig tra bod y wawr yn torri.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gyda ffrindiau yn Sitges yn Sbaen - gwyliau blynyddol gyda phobl sbesial. Alcohol, bwyd da a dodi'r byd yn ei le.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Siaradus, hapus, steilish.
Beth yw dy hoff lyfr?
Falling Leaves - llyfr storïau am hanes Siapan.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Lindy Hemming, y gynllunwraig gwisgoedd o Gymru. Hi oedd yn cynllunio holl wisgoedd y ffilmiau Bond.

Byddai Huw wrth ei fodd yn cael diod a sgwrs â'r ddynes oedd yn gyfrifol am wardrob James Bond
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n ei feddwl?
Dunkirk - trawiadol, emosiynol a chofiadwy. Wrth fy modd â ffilmiau hanesyddol.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Yfed gin a thonic gyda ffrindiau a theulu, yn hel atgofion digri.
Dy hoff albwm?
The Writing's On The Wall - Destiny's Child.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Moules marinière, Boeuf en Croute a Panacotta.

Roedd Huw wrth ei fodd pan gafodd greu ffrog briodas ei gyfaill a'i gyd-gyflwynydd, Siân Thomas
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Tom Ford, cyn-gynllunydd Gucci.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Elin Mai Davies