Pryder am gau gwesty hanesyddol yn Llanbedr Pont Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae Maer Llanbedr Pont Steffan wedi mynegi pryder am benderfyniad cwmni Brains i gau tafarn a gwesty hanesyddol y Llew Du yng nghanol y dref.
Cyhoeddodd Brains y bydd y gwesty yn cau ddiwedd mis Medi, a hynny am nad oedd yn gwneud elw.
Dywedodd y cwmni eu bod mewn trafodaethau gyda'r 17 o bobl sy'n cael eu cyflogi yno, er mwyn ceisio dod o hyd i swyddi newydd iddyn nhw.
'Diflas'
"Dwi'n teimlo'n ddiflas ofnadwy," meddai'r cynghorydd a maer, Hag Harries, wrth BBC Cymru Fyw. "Mae gwesty'r Llew Du wedi bod yno ers diwedd y 17eg ganrif.
"Mae wedi newid perchnogaeth sawl gwaith dros y blynyddoedd.
"Tua 10 mlynedd yn ôl, cafodd ei werthu i Brains. Ers hynny, sai'n gweld unrhyw fuddsoddiad sylweddol o gwbl."
Mae yna bryder y bydd cau'r gwesty'n effeithio'n andwyol ar ganol tref Llambed, sydd hefyd wedi gweld siop Spar ar Stryd y Coleg yn cau'n ddiweddar.
Roedd 12 o bobl yn cael eu cyflogi yno, gan ddod â chyfanswm y diswyddiadau yn y dref o fewn ychydig wythnosau i 29.
"Mae'n poeni fi bod swyddi'n mynd i yn dref," meddai'r cynghorydd tref, Elin T Jones.
"Dyw Llanbed ddim yn dref fawr. Gyda adeiladau yn wag a swyddi'n mynd, dwi'n becso am y dyfodol.
"Fel cynghorwyr, rydyn ni'n trio gwneud popeth i gael pobl i mewn a denu busnesau."
'Hanesyddol'
Mae Gwesty'r Llew Du yn un o adeiladau hynaf y dref, yn ôl yr hanesydd lleol, Selwyn Walters: "Mae'n mynd yn ôl i'r 18fed ganrif, ac o bosib, cyn hynny.
"Yng nghanol y 18fed ganrif, roedd Llanbed yn post town, felly roedd y mail coach yn dod i'r Llew Du. Reodd e'n enwog iawn.
"Mae lled y stryd y tu fas i'r Llew Du yn fwy achos dyna lle rodd y mart. Roedd y ceffylau yn casglu yn fyna y tu fas i'r Llew Du.
"Mae'n drueni mawr, mae'n hanesyddol. Mae'n rhan o fywyd y dref."
Dywedodd llefarydd ar ran Brains: "Rydym wedi dod i'r penderfyniad anodd i gau Gwesty'r Llew Du yn Llanbedr Pont Steffan gan nad oedd y busnes yn gwneud elw.
"Fe warion ni £40,000 ar gostau cynnal a chadw yn 2013-14 ac roeddem wedi cynllunio i fuddsoddi ymhellach yn y Llew Du.
"Fe ymchwilion ni i nifer o ddatgblygiadau ar y safle ond yn anffodus, dydyn ni ddim wedi gallu cael caniatâd cynllunio i fwrw mlaen â'r cynlluniau.
"Yn dilyn astudiaeth dichonoldeb, byddai angen dros £1.2m o fuddsoddiad i ddod â'r Llew Du i'r safon angenrheidiol, a chredwn fod hyn yn golygu nad yw bellach yn fusnes hyfyw.
"Bydd y Llew Du yn cau ddiwedd mis Medi a bydd y safle yn cael ei ddiogelu a'i roi ar werth.
"Rydym mewn trafodaethau gyda'r 17 aelod staff er mwyn dod o hyd i swyddi eraill iddyn nhw, a hoffem eu diolch am eu dealltwriaeth ar y mater.
"Bydd Brains nawr yn edrych ar gyfleoedd i fuddsoddi yn eu heiddo arall yn Llanbed, Gwesty'r Castell ar y Stryd Fawr."
Dywedodd y Cynghorydd Hag Harries ei fod yn gobeithio y bydd y Llew Du yn cael ei brynu: "Fe hoffwn weld y lle yn mynd ar y farchnad fel bod unigolyn neu gwmni arall yn cael y cyfle i'w brynu a'i ddatblygu, a buddsoddi yn yr adeilad."