Cymru i wahardd peli plastig mewn cynnyrch harddwch
- Cyhoeddwyd

Bydd gwaharddiad ar beli bach plastig mewn cynnyrch harddwch yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, yn dilyn penderfyniad llywodraeth y DU i wneud yr un peth yn Lloegr.
Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni ar sut y caiff y gwaharddiad ei orfodi.
Mae amgylcheddwyr yn poeni bod lefelau peli meicro yn codi mewn cefnforoedd ac y gallan nhw gael eu cyflwyno i'r gadwyn fwyd.
Mae'r darnau bach o blastig yn cael eu defnyddio mewn past dannedd, glanhawyr corff a chynhyrchion eraill.

Dydy hi ddim yn glir bryd fydd y mesur yn dod i rym yng Nghymru - mae disgwyl i'r dyddiad gael ei gyhoeddi yn yr ymgynghoriad.
Mae llywodraeth y DU wedi dweud y bydd y gwaharddiad yn dod i rym yn Lloegr ar ddechrau 2018.
Y gred yw mai dim ond un cwmni yng Nghymru sy'n cynhyrchu cynhyrchion cosmetig sy'n cynnwys y peli micro.
Er bod llywodraeth y DU wedi cefnogi gwaharddiad ar y cynnyrch, mae'n rhaid i'r llywodraethau datganoledig basio eu deddfwriaeth eu hunain i weinyddu'r gwaharddiad.
Disgwylir i adrannau safonau masnach awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am orfodi'r mesur.