Nofio o Gymru i Loegr
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 90 mlynedd ers i'r person cyntaf nofio'r môr rhwng Penarth a Weston-super-Mare.
Beth sydd yn gwneud hyn yn hyd yn oed yn fwy arbennig yw mai merch oedd y nofwraig - rhywbeth anarferol iawn yn y cyfnod.
![Kathleen Thomas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1564B/production/_97672678_kathleen_thomas.jpg)
Roedd Kathleen Thomas yn 21 oed pan benderfynodd ymgymryd â'r her o nofio'r 11 milltir ar draws Môr Hafren.
Oherwydd y cerynt cryf, roedd hi'n debycach i nofio dros 20 milltir mewn gwirionedd, ac roedd nifer yn y gorffennol wedi ei fentro ac wedi methu.
Llwyddodd i'w nofio mewn 7 awr 20 munud, ac ar ôl seibiant byr a phryd o fwyd yn Weston, dychwelodd i Benarth yn seren, i groeso gwresog gan drigolion y dref.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach llwyddodd merch arall o Benarth, Edith Parnell, i gyflawni'r gamp - dim ond 16 oed oedd hi.
Yn 2007, cafodd plac ei osod ar bier Penarth i gofio camp arloesol Kathleen Thomas.
![Plac Kathleen Thomas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6C21/production/_97618672_plac_kathleen.jpg)