Dal pysgodyn 'anferth' 208kg oddi ar arfordir Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae tiwna anferth yn pwyso tua 460 pwys wedi cael ei ddal oddi ar arfordir Sir Benfro.
Fe dreuliodd Andrew Alsop ddwy awr a 15 munud yn ceisio tynnu'r "bwystfil" 208kg i mewn ar ôl ei ddal ar ddamwain oddi ar arfordir Neyland.
Dywedodd Mr Alsop fod y pysgodyn yn un "unwaith mewn bywyd".
Ar ôl hynny cafodd y tiwna asgell las, sydd yn rhywogaeth brin, ei ddychwelyd i'r dŵr.
Mewn neges Facebook dywedodd Mr Alsop: "Wel am ddiwrnod!! Nes i ddal pysgodyn unwaith mewn bywyd heddiw ar ôl brwydr boenus o ddwy awr 15 munud ar ben fy hun.
"Y tiwna asgell las 460 pwys yma yw'r pysgodyn mwyaf erioed i gael ei ddal yn nyfroedd Cymru."
Ychwanegodd: "Dwi'n brifo drostaf nawr."
Mae'r tiwna asgell las wedi'i restru fel rhywogaeth dan fygythiad, a chyngor Sefydliad Rheoli Morol Llywodraeth y DU yw y dylid dychwelyd unrhyw rai sy'n cael eu dal yn anfwriadol yn ôl i'r môr heb eu niweidio os yn bosib.