Breuddwyd Cymru'n fyw ar ôl curo Awstria

  • Cyhoeddwyd
woodyFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Ben Woodburn yn cael ei longyfarch am ei gôl hollbwysig

Cymru 1-0 Awstria

Mae breuddwyd Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 60 mlynedd yn dal yn fyw wedi buddugoliaeth yn erbyn Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn.

Roedd yr hanner cyntaf yn dynn - y ddau dîm yn cael cyfleoedd, ond Awstria oedd y tîm gorau ac fe wastraffodd Marko Arnautovic gyfle gorau'r hanner.

Roedd ymosodwr Awstria yn glir yn y cwrt cosbi, ond rhywsut fe gododd ei ergyd dros y trawst o lai na deg llath.

Penderfynodd Chris Coleman newid pethau ar yr egwyl. Newidiodd Cymru i chwarae pedwar yn y cefn, a daeth Andy King i ganol cae i gadw trefn ar David Alaba, un o chwaraewyr perycla'r ymwelwyr.

Fe weithiodd hynny i raddau wrth i Gymru fwynhau'r gorau o'r chwarae yn yr ail hanner, ond yna dewrder gan Coleman arweiniodd ar newid pellach.

Fe dynnodd Tom Lawrence a Sam Vokes oddi ar y cae a dod â Hal Robson-Kanu a Ben Woodburn i'r cae - llanc 17 oed Lerpwl yn ennill ei gap cyntaf.

Ac am gap cyntaf!

Disgrifiad,

Roedd curo Awstria yn fuddugoliaeth 'enfawr' medd Ben Davies

O fewn dim roedd Woodburn wedi derbyn y bêl y tu allan i'r cwrt cyn tanio ergyd troed dde i gornel isa'r rhwyd, ac roedd Cymru ar y blaen.

Wrth i Awstria bwyso i geisio dod yn gyfartal, fe agorodd y gêm ac fe ddaeth sawl cyfle arall i Gymru i ymestyn eu mantais.

Tarodd Hal Robson Kanu y postyn, a bu'n rhaid i golwr Awstria arbed cynigion gan Bale, Robson-Kanu ac un arall gan Woodburn cyn y diwedd.

Ond roedd yr un gôl yn ddigon, a gan mai gêm gyfartal yn unig gafodd Gweriniaeth Iwerddon yn Georgia, fe allai Cymru godi i'r ail safle yn y grŵp os fyddan nhw'n curo Moldofa nos Fawrth nesaf.

Serbia sydd ar frig y grŵp gyda 15 pwynt, Gweriniaeth Iwerddon yn ail gyda 13, a Chymru'n drydydd gydag 11. Mae Serbia a Gweriniaeth Iwerddon yn wynebu'i gilydd nos Fawrth yn ogystal.

'Ysbryd a balchder'

Wedi'r gêm, dywedodd dirprwy reolwr Cymru, Osian Roberts, ei fod yn falch iawn o berfformiad y tîm.

"Mae'r hogia wedi perfformio unwaith eto. Da' ni'n dal yn y ras ac yn edrych ymlaen at y gêm nesa yn Moldofa.

"Mae'r clod i gyd i'r chwaraewyr am y gwaith caled, yr agwedd, y galon, yr ysbryd a'r balchder yna o wisgo crys coch Gymru, a dyna sydd wedi dod a ni drwadd heno'ma."

Disgrifiad,

'Mae'r clod i gyd i'r chwaraewyr' medd Osian Roberts

Ychwanegodd nad oedd perfformiad Ben Woodburn wedi ei synnu o gwbl: "Clod mawr i Ben, mae o'n hogyn ifanc arbennig iawn, mae o wedi bod efo ni ers blynyddoedd, da ni'n falch iawn ohono fo.

"A dyna sy'n bwysig, bod gynnon ni'r genhedlaeth ifanc o chwaraewyr sydd yn dod drwadd i atgyfnerthu beth sy gynnon ni fel grŵp sbesial iawn o chwaraewyr."

'Pwyso a mesur'

Wrth edrych ymlaen at gêm Moldofa nos Fawrth, dywedodd bod ganddyn nhw "ychydig bach o amser" i ystyried unrhyw newidiadau i'r tîm.

"Mae Joe Allen a Neil Taylor yn dod yn ôl ar gael, felly mae gynnon ni ddewisiadau i'w gwneud.

"Bydd rhaid pwyso a mesur ar ôl heno."