Esgob John Davies ydy Archesgob newydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Esgob John Davies, sydd ar hyn o bryd yn Esgob yn Abertawe ac Aberhonddu yw Archesgob newydd Cymru.
Daeth y cyhoeddiad ar ôl diwrnod a hanner o drafod gan Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru yn Llandrindod a ddechreuodd fore Mawrth.
Fe fydd John Davies yn olynnu Dr Barry Morgan fel Archesgob Cymru.
Cafodd Mr Davies ei ordeinio yn 1984 ar ôl gweithio ym myd y gyfraith ac mae wedi bod yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu ers 2008.
Y pum esgob etholaethol arall oedd yn y ras oedd Esgob Bangor, Andy John; Esgob Llanelwy, Gregory Cameron; Esgob Mynwy, Richard Pain; Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy ac Esgob Llandaf, June Osborne.
Seremoni orseddu yn Aberhonddu
Y coleg etholiadol oedd yn dewis yr archesgob newydd sef 42 o aelodau sydd yn cynnwys clerigwyr a phobl lleyg.
Roedd y bleidlais yn un gudd ac roedd yn rhaid i John Davies sicrhau dwy ran o dair o'r pleidleisiau er mwyn cael ei ethol yn Archesgob.
Bydd seremoni orseddu'r Archesgob newydd yn Aberhonddu "mewn ychydig fisoedd" yn ôl Yr Eglwys yng Nghymru.
Fe wnaeth Dr Barry Morgan ymddeol ar 31 Ionawr 2017 ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 70 oed wedi iddo fod wrth y llyw am bron i 14 mlynedd.