Diddymu cwmni lladd-dy Farmers Choice ym Môn
- Cyhoeddwyd
![lladd-dŷ](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1757B/production/_97711659_44f29126-4187-4dd3-8877-d9fc5abcbb7e.jpg)
Mae cwmni a oedd wedi gobeithio creu dros 100 o swyddi mewn lladd-dy ym Môn wedi cael ei ddiddymu wedi gorchymyn gan y llys.
Roedd y cwmni Farmers Choice Limited wedi cymryd drosodd hen safle Welsh Country Foods yn Gaerwen ddwy flynedd yn ôl, ac wedi lladd nifer cyfyngedig o ŵyn am gyfnod.
Y gobaith oedd ehangu'r busnes, ond erbyn dydd Iau, roedd y giât i'r safle wedi ei gloi, ac nid oedd modd cysylltu â neb o'r cwmni.
Adroddiad Sion Tecwyn i raglen Newyddion 9
Mae'r Aelod Cynulliad lleol, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud bod y newyddion yn "gam mawr yn ôl" ond dywedodd ei fod yn amlwg bod angen cyfleuster o'r fath ar Ynys Môn.
Mae'n obeithiol bod modd sefydlu lladd-dy ar y safle yn y dyfodol.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad: "Mae hanes diweddar y diwydiant lladd-dai, nid yn unig yma ar Ynys Môn, ond mewn mannau eraill hefyd, yn dweud wrthym fod y sector yn mynd drwy gyfnod anodd iawn iawn."
"Ond rwy'n dal yn argyhoeddedig bod angen y cyfleuster i ryw raddau ar Ynys Môn."
Fe gollodd mwy na 300 o bobl eu swyddi pan gaewyd y gwaith gan Welsh Country Foods yn 2013.