Ffyrdd ar gau wrth i Sir Benfro gynnal her Ironman Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Her fawr yr Ironman i Robert James o Efail-Wen, Sir Gâr

Mae cystadleuaeth Ironman Cymru'n cael ei chynnal yn Sir Benfro ddydd Sul gyda'r sicrwydd y bydd yn aros yn y sir tan 2021.

Fel rhan o'r her, mae'r cystadleuwyr yn gorfod nofio dwy filltir, beicio dros 100 milltir a rhedeg marathon cyfan.

Fe fydd rhai o ffyrdd de'r sir, dolen allanol ar gau yn ystod y dydd yn sgil y digwyddiad sy'n cychwyn a gorffen yn Ninbych-y-Pysgod.

Mae'n debyg bod Ironman Cymru yn cyfrannu tua £3.5m i economi'r sir.

Daeth cadarnhad ddydd Iau bydd y digwyddiad yn aros yn yr ardal am bum mlynedd arall.