Cyhoeddi rhestr fer gwobr gelfyddydol Artes Mundi

  • Cyhoeddwyd
Artes Mundi

Mae sefydliad Artes Mundi wedi cyhoeddi'r pum artist sydd ar y rhestr fer ar gyfer wythfed dyfarniad y wobr gelfyddydol.

Bydd enillydd y tlws a'r wobr ariannol o £40,000 yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2019.

Y pum artist ar y rhestr fer yw Anna Boghiguian (Canada/Yr Aifft), Bouchra Khalili (Moroco/Ffrainc), Otobong Nkanga (Nigeria), Trevor Paglen (Yr Unol Daleithiau) ac Apichatpong Weerasethakul (Gwlad Thai).

Hon fydd yr wythfed tro i'r wobr gael ei dyfarnu, ac fe gafodd 450 o artistiaid o 86 o wledydd eu henwebu ar gyfer y gystadleuaeth.

Arddangosfa

Fe fydd yr artistiaid sydd ar y rhestr fer yn cymryd rhan mewn arddangosfa yn yr Amgueddfa Genedlaethol rhwng 27 Hydref 2018 a 24 Chwefror 2019.

Y beirniaid fu'n gyfrifol am dorri'r rhestr fer i bum enw oedd Nick Aikens, curadur yn Yr Iseldiroedd, Daniela Pérez, curadur annibynnol sy'n byw ym Mecsico, ac Alia Swastika, curadur a llenor o Indonesia.

Mae Artes Mundi yn sefydliad celfyddydau rhyngwladol, sydd â'i gartref yng Nghaerdydd, ac mae'r wobr yn cael ei chyflwyno pob dwy flynedd.

Mae'r cyn-enillwyr yn cynnwys John Akomfrah o Ghana, Theaster Gates o'r Unol Daleithiau a Teresa Margolles o Fecsico.

line break

Anna Boghiguian (Canada/Yr Aifft)

Anna BoghiguianFfynhonnell y llun, Anna Boghiguian

Ganwyd Anna Boghiguian, sydd o dras Armenaidd, yn Cairo ym 1946, ond nid yw wedi mabwysiadu'r ddinas fel ei hunig gartref erioed.

Mae wedi byw bywyd crwydrol gan deithio'r byd o ddinas i ddinas fel artist, o'r Aifft i Ganada, o India i Ffrainc.

Mae ei gwaith yn gyfansoddiadau dwys, yn aml yn cynnwys testun, delweddau, casgliadau o ffotograffau a deunyddiau dogfennol eraill.

line break

Bouchra Khalili (Moroco/Ffrainc)

Bouchra KhaliliFfynhonnell y llun, Dustin Aksland

Artist Morocaidd-Ffrengig yw Bouchra Khalili, gafodd ei magu yn Casablanca, cyn mynd ymlaen i astudio Ffilm a'r Celfyddydau Gweledol ym Mharis.

Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio ym Merlin yn Yr Almaen ac Oslo yn Norwy.

Mae'n gweithio gyda ffilm, fideo, gosodiadau, ffotograffiaeth a phrintiadau, ac mae ei gwaith yn rhoi llais i iaith, gwrthrychedd, llefaredd, ac archwiliadau daearyddol.

line break

Otobong Nkanga (Nigeria)

Otobong NkangaFfynhonnell y llun, Wim van Dongen

Artist gweledol yw Otobong Nkanga, ddechreuodd astudio celf ym Mhrifysgol Obafemi Awolowo yn Nigeria cyn parhau â'i hastudiaethau ym Mharis.

Mae ei lluniau, gosodiadau, ffotograffau a cherfluniau'n archwilio syniadau amrywiol sy'n ymwneud â thir a'r gwerth sy'n gysylltiedig ag adnoddau naturiol.

Mae ei gwaith In Wetin You Go Do? yn rhan o'r casgliad parhaol yn y Tate Modern.

line break

Trevor Paglen (Yr Unol Daleithiau)

Trevor PaglenFfynhonnell y llun, Trevor Paglen Studio

Mae gwaith Trevor Paglen yn cwmpasu creu delweddau, cerflunio, newyddiaduraeth ymchwiliol, ysgrifennu, peirianneg a nifer o ddisgyblaethau eraill.

Mae'n awdur ar bump o lyfrau a nifer o erthyglau ar bynciau gan gynnwys cyfrinachedd gwladol, ffotograffiaeth ac astudiaeth o symbolau milwrol.

Cafodd ei gelf ei lansio i orbit pell o gwmpas y ddaear ar y cyd â Creative Time a phrifysgol MIT yn 2012.

line break

Apichatpong Weerasethakul (Gwlad Thai)

Apichatpong WeerasethakulFfynhonnell y llun, Apichatpong Weerasethakul

Ganwyd Apichatpong Weerasethakul yn Bangkok a chafodd ei fagu yn Khon Kaen yng ngogledd-ddwyrain Gwlad Thai.

Dechreuodd wneud ffilmiau fideo byr ym 1994, gan gwblhau ei ffilm nodwedd gyntaf yn 2000.

Mae ei brosiectau celf a'u ffilmiau nodwedd wedi ennill cydnabyddiaeth eang a nifer o wobrau mewn gwyliau ffilm, gan gynnwys dwy wobr yng Ngŵyl Ffilm Cannes.