Technoleg clefyd siwgr newydd ar y Gwasanaeth Iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae Diabetes UK yn dweud y bydd technoleg newydd i fonitro lefelau glwcos pobl sy'n dioddef o glefyd siwgr ar gael ar y GIG yng Nghymru.
Bydd monitro glwcos sydyn yn gweld pobl sy'n dioddef o ddiabetes Math 1 yn gwisgo synhwyrydd bychan o dan eu croen.
Maen nhw wedyn yn gallu sganio'r synhwyrydd ar unrhyw adeg i ddarganfod lefel glwcos y gwaed heb fod angen pigo eu bysedd.
Mae Diabetes UK yn dweud y bydd y dechnoleg newydd ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar draws y DU.
'Trawsnewid bywydau'
Dywedodd yr elusen y byddai'r datblygiad yn "trawsnewid bywydau pobl sy'n byw â diabetes Math 1".
Ar hyn o bryd mae rhai pobl yn gorfod pigo eu bysedd hyd at 10 gwaith y dydd i ddarganfod lefel glwcos y gwaed.
Yn y gorffennol roedd yn rhaid i bobl sy'n dioddef o ddiabetes Math 1 ariannu monitro glwcos sydyn o'u pocedi eu hunain os oedden nhw eisiau defnyddio'r dechnoleg.
Mae'r dechnoleg hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth am eu lefelau, gan eu galluogi i weithredu yn gynt os oes problem.
Dywedodd cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, Dai Williams, bod y cyhoeddiad yn "newyddion gwych".
"Gall monitro glwcos sydyn ryddhau pobl sy'n byw â chlefyd siwgr o'r boen o orfod pigo eu bysedd yn gyson, a rhoi mwy o reolaeth iddyn nhw i reoli eu cyflwr," meddai.
"Mewn tro, mae ganddo'r potensial i helpu atal llu o gymhlethdodau hirdymor.
"Yr her nawr fydd sicrhau bod pawb allai gael budd o'r dechnoleg yma yn cael mynediad iddo yn eu hardaloedd nhw."