Signal cefn gwlad Cymru yn 'waeth nag Ynysoedd Heledd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r signal ffôn mewn rhannau o Gymru yn waeth nag ar rai o Ynysoedd Heledd yn Yr Alban, yn ôl arbenigwr yn y maes.
Dywedodd yr Athro Alan Dix bod angen mynd i'r afael â'r "broblem andwyol" o fannau sydd heb unrhyw gysylltiad.
Cyn araith yn Wrecsam ddydd Iau, dywedodd mai gwella signal ffôn, nid darparu band eang cyflym, fyddai'n trawsnewid argaeledd y we yng Nghymru.
Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan Lywodraeth Cymru ar y mater.
'Problem ddibynadwyedd'
Mae'r Athro Dix yn byw ar ynys Tiree yng ngorllewin Yr Alban - ynys sydd â phoblogaeth o tua 650 o bobl - ond mae'n dweud bod cyswllt gwell i'r we yno nac yn nifer o ardaloedd yng Nghymru.
Bydd yn trafod gwerth 30 mlynedd o ymchwil, gan gynnwys taith gerdded 1,000 milltir o amgylch Cymru yn 2013, wrth annerch cynhadledd Technolegau'r We ac Apiau yn Wrecsam.
"Er bod cysylltiadau'n debygol o fod wedi gwella dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU yn debygol o fod yr un peth," meddai.
"Y rhan fwyaf o'r amser, wrth gerdded, roeddwn yn lwcus i gael unrhyw signal, ac roedd mwy neu lai pob ardal yng ngogledd Cymru yn wael."
Dywedodd mai'r mater sy'n cael y mwyaf o sylw yw cyflymder band eang, gyda nifer o addewidion gan y llywodraeth amdano.
"Ond os ydych chi'n treulio amser mewn ardal wledig, dy'ch chi'n sylweddoli nad cyflymder yw'r broblem, ond dibynadwyedd - mae cyfnodau pan nad oes gennych chi ddim cyswllt, ond sydd ddim yn ddigon hir i gael eu cofnodi fel toriad yn y gwasanaeth," meddai.
"Maen nhw'n amrywio o ychydig eiliadau i funudau, ond digon i amharu ar eich defnydd o wasanaeth sydd eisoes yn araf."
Ychwanegodd bod yna "ergyd ddwbl" i gefn gwlad Cymru o ran signal - tirwedd anodd a phoblogaeth fechan - sy'n golygu nad oes gwerth am arian i gwmnïau wasanaethu'r ardal.
'Blaenoriaeth'
Yn ymateb i sylwadau'r Athro Dix, dywedodd gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb bod "Llywodraeth y DU a busnesau wedi bod yn glir am bwysigrwydd signal ffonau symudol er mwyn i economi cefn gwlad Cymru ffynnu".
"Ers dechrau yn y rôl mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a minnau wedi ei wneud yn flaenoriaeth i gasglu partneriaid at ei gilydd i fynd i'r afael â'r broblem o ardaloedd heb signal ar draws y wlad," meddai.
"Er fy mod yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal ymchwil am fastiau telathrebu a hawliau datblygu yng Nghymru, mae nawr yn amser iddyn nhw gyflwyno newidiadau i bolisïau cynllunio signal ffôn i gefnogi'r dechnoleg newydd sy'n cael ei ddarparu."