Cyhoeddi cyfarwyddwr cerdd newydd Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Vicky Yannoula

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi mai Vicky Yannoula fydd eu cyfarwyddwr cerdd newydd.

Ms Yannoula fydd wythfed cyfarwyddwr cerdd yr Eisteddfod, a'r person cyntaf o Wlad Groeg i dderbyn y swydd.

Mae Ms Yannoula yn ymuno â thîm Eisteddfod Llangollen ar ôl gweithio gyda sefydliadau fel Trinity College Llundain, Prifysgol Middlesex ac Ymddiriedolaeth Drake Calleja.

Ers symud o Corfu i Lundain yn 1995 i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol, mae Ms Yannoula wedi ymddangos fel pianydd ar lwyfannau ar draws y byd ac wedi cyd-weithio ag ystod eang o artistiaid rhyngwladol.

Bydd yn olynu Eilir Owen Griffiths ar ôl ei gyfnod o chwe blynedd wrth y llyw.

'Lle arbennig iawn'

Dywedodd Ms Yannoula: "Cyn gynted ag y gwelais i'r swydd yn cael ei hysbysebu, fe ges i fy nenu ati.

"Roeddwn i eisoes yn gyfarwydd ag Eisteddfod Llangollen gan fod ganddi le arbennig iawn yn y calendr cerddorol.

"Mae gwerthoedd craidd yr Eisteddfod a'i rôl fel dathliad amlddiwylliannol o heddwch yn ysbrydoliaeth i mi, felly mae cael fy mhenodi i ddilyn yn ôl traed sawl cyfarwyddwr cerdd talentog yn fraint enfawr."

Mae'r Eisteddfod yn gobeithio y bydd ei phrofiad "eang ac amrywiol" a'i chefndir rhyngwladol perthnasol yn cynnig "cyfle cyffrous" yn natblygiad y sefydliad.

Dywedodd cadeirydd yr ŵyl, Dr Rhys Davies: "Rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd gan ddawn gerddorol Vicky i'w gynnig i'r ŵyl nesaf a sut y bydd ei phrofiad eang yn cryfhau presenoldeb yr Eisteddfod Ryngwladol ar y llwyfan rhyngwladol.

"Fe fydd ei chefndir trawiadol yn sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i dyfu a datblygu, gan gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn genedlaethol a rhyngwladol."