Refferendwm '97: Stori’r noson
- Cyhoeddwyd
Ble oeddech chi ar noson enwog Refferendwm 1997? Fe bleidleisiodd Cymru o drwch blewyn i gael Cynulliad cenedlaethol. Dyma stori'r noson...

Cyflwynwyr a gohebwyr BBC Cymru ar noson Refferendwm '97: (o'r chwith i'r dde) Guto Harri, Bethan Rhys Roberts, Dewi Llwyd a Vaughan Roderick

Vaughan Roderick, golygydd materion Cymreig y BBC, sy'n cofio yn ôl i ddechrau'r noson honno. Er fod y gwybodusion yn rhagweld buddugoliaeth i ymgyrch 'Ie', doedd pethau ddim yn edrych yn fêl i gyd...
"Roedd hi'n mynd i fod yn noson hir iawn a thyngedfennol yn hanes Cymru."

Erbyn 01:00 mae canlyniadau cyntaf y noson wedi'u cyhoeddi o Wrecsam a Sir y Fflint - ac mae Carys Pugh o ymgyrch 'Na' yn hapus ei byd.
"...ymgyrch 'Na' wedi ymladd ymgyrch lân..."

Am 01:11, dyma gyhoeddi canlyniad o Gasnewydd - ac mae 'na fwyafrif clir yn erbyn datganoli.


Mae Ynys Môn ymysg y cyntaf i ddweud 'Ie' - o drwch blewyn. Ac mae Dewi Llwyd yn anhapus gyda'r treigliadau ar y graffeg...
Dafydd Iwan yn "amheus" er gwaethaf canlyniadau Môn

Am 02:00, mae pethau'n poethi ym mharti'r ymgyrch 'Na' wrth i drigolion y brifddinas bleidleisio yn erbyn cael Cynulliad Cymreig.
Parti 'Na' yn dathlu canlyniad Caerdydd

Gyda'r brifddinas wedi pleidleisio 'Na', mae 'Parti'r Sêr' wedi troi'n le digalon.
Mae'r actores, Sue Roderick, yn bygwth symud i Awstralia os bydd y bleidlais derfynol yn 'Na'

Ar ôl 10 canlyniad, mae hi'n edrych fel noson anodd i'r Blaid Lafur. Yn y stiwdio, mae Rhodri Morgan yn rhagweld "ructions"...
Mae Rhodri Morgan yn ofni rhwygiadau o fewn ei blaid

Am 02:16, mae ymgyrch 'Ie' yn dathlu. Mae 66.5% o bobl Castell-nedd Port Talbot am gael Cynulliad - y ganran uchaf o unrhyw sir yng Nghymru.
Dathliadau criw 'Ie' yn dilyn canlyniad Castell-nedd Port Talbot

Dros yr awr nesaf, mae Ceredigion, Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Gwynedd yn dweud 'Ie'. Gydag un canlyniad i ddod, roedd hi'n agos.


Am 03:45, mae pawb yn disgwyl yn eiddgar am ganlyniad Sir Gaerfyrddin. Mae gan y gohebydd John Meredith awgrym o'r hyn sydd i ddod...
"...yr ateb syml i hynna, Dewi, ydy 'ydwyf'."

A dyna ddiwedd ar noson hanesyddol, a chychwyn ar gyfnod newydd yng Nghymru. Mae 50.3% o'r wlad wedi pleidleisio o blaid cael Cynulliad.
Dathliadau mawr yng Nghaerdydd