Gŵyl Fwyd Caernarfon yn symud lleoliad
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Gŵyl Fwyd boblogaidd yng Ngwynedd wedi cadarnhau y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf, er gwaethaf pryderon y byddai gwaith datblygu mewn ardaloedd o dref Caernarfon yn effeithio ar y trefniadau.
Mae'r ŵyl yn dathlu bwyd a diod lleol gyda chyfle i brynu a blasu cynnyrch yn y nifer o stondinau ac arddangosfeydd.
Mae'r ŵyl wedi cael ei chynnal dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ardaloedd Y Maes, Gefail yr Ynys a'r Cei Llechi, ond gan fod gwaith datblygu ardal Cei Llechi a Lon Santes Helen yn mynd yn ei flaen, ni fydd yr ardal hon ar gael i'r Ŵyl Fwyd yn 2018.
Oherwydd hyn, fe fydd yr ŵyl wedi ei gwasgaru dros sawl ardal arall o'r dre yn cynnwys Pendeitsh, y Prom, Porth yr Aur a Doc Fictoria yn ogystal â'r Maes a Stryd Llyn.
Gobaith am 20,000 o ymwelwyr
Fe fydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal am y trydydd tro yn 2018, a hynny ar 12 Mai.
Daeth oddeutu 15,000 o ymwelwyr i'r ŵyl y llynedd, ac mae'r trefnwyr yn gobeithio denu 20,000 o ymwelwyr i Gaernarfon yn 2018.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor sy'n trefnu'r ŵyl, Nicki Beech:
"Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar 12 Mai 2018. Er nad yw'r Cei Llechi ar gael ar ein cyfer yn 2018, rydym wedi sylweddoli'r potensial i rannau eraill o Gaernarfon er mwyn cynnal yr ŵyl.
"Rydym yn gyffrous wrth fynd ati i drefnu, a'n edrych ymlaen yn fawr i groesawu ymwelwyr i fannau eraill Caernarfon i flasu bwyd a diod arbennig yr ardal."