Mam yn codi llais am gyflwr prin wrth roi genedigaeth
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Wynedd oedd â thros 20 o feddygon yn gofalu amdani pan roddodd enedigaeth i'w thrydedd merch yn poeni nad oes digon o ymwybyddiaeth o'r cyflwr prin yr oedd hi'n dioddef ohono.
Mae 'placenta accreta' yn gallu peryglu bywyd y fam a'r babi, ac am wythnosau roedd Ceri Bostock yn ofni'r gwaethaf.
Mewn cyfweliad arbennig â Newyddion 9 bu'n sôn am ei phrofiad hunllefus, gan ddweud nad oedd marw yn rhywbeth yr oedd hi wedi "disgwyl meddwl amdano yn yr oed yma".
Ychwanegodd ei bod hi wedi ysgrifennu ewyllys a llythyrau i'r teulu "rhag ofn".
'Lwcus ofnadwy'
Mae placenta accreta yn gyflwr sy'n effeithio ar tua un o bob 6,000 o fenywod beichiog, wrth i'r brych lynu yn ddwfn i wal y groth, ac fe all achosi gwaedu mawr.
Mae yna fwy o risg i'r mamau hynny sydd wedi rhoi genedigaeth Gesaraidd o'r blaen, a heb ddiagnosis fe all ladd.
Mae Ceri yn byw yng Ngharmel, Dyffryn Nantlle, ac yn gyn-gyflwynydd rhaglen blant 'Dwylo'r Enfys' ar S4C.
Fe roddodd enedigaeth i Shari Fflur - babi iach a llawn bywyd - bedwar mis yn ôl, ond roedd y cyfnod o fod yn feichiog yn hunllefus iddi hi a'i phartner Dyfed Thomas.
"Rhyw ddoctor oedd 'di dod i fewn jyst am wythnos i Ysbyty Gwynedd, mynd drwy'r sganiau i gyd a 'di pigo fyny hwyrach fod 'na broblem efo un fi," meddai.
"Felly dwi'n lwcus ofnadwy."
Gydag Ysbyty Gwynedd - yn ôl Ceri - yn delio â'r cyflwr am y tro cyntaf, cafodd mesurau arbennig eu rhoi yn eu lle i ofalu amdani.
Bu'n rhaid iddi aros dan oruchwyliaeth yn yr ysbyty am bedair wythnos cyn yr enedigaeth i wneud yn siŵr fod popeth yn iawn.
Peryglon
Mae Ceri a Dyfed yn llawn canmoliaeth o'r gofal gawson nhw yn Ysbyty Gwynedd, a nawr yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.
"Mae angen siarad amdano fo, dydi pobl ddim yn ymwybodol ohono fo," meddai Ceri.
"Roedd 'na rai o'r staff yn yr ysbyty o'n i'n siarad efo nhw oedd erioed 'di clywed amdano fo o'r blaen.
"Felly mae'n bwysig achos mae lot o bobl yn cael cesareans rŵan a dwi'n meddwl fod o'n bwysig [fod pobl] ddim yn cael caesarean jyst i gael caesarean oherwydd yn y dyfodol fysa fo'n gallu bod yn rhywbeth peryglus ofnadwy os ti'n cael accreta."
Mewn datganiad fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod merched sydd wedi cael llawdriniaeth Cesaraidd yn y gorffennol dan "fwy o risg o gael placenta accreta".
"Mae ffactorau risg eraill yn cynnwys oed y fam, genedigaethau blaenorol a chraith ar y groth," meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.
"Mae pob merch feichiog sy'n trefnu i gael gofal mamolaeth yng ngogledd Cymru yn cael cynnig sgan uwchsain i ganfod achos anrheolaidd ar wythnos 20 y cyfnod cario, a gwneir unrhyw sganiau ychwanegol yn unol â chynllun gofal yr Obstetregydd Ymgynghorol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ymwybodol o'r cyflwr prin yma yn ystod beichiogrwydd ac yn cydnabod pwysigrwydd rheolaeth glinigol brydlon yn unol â chanllawiau'r Coleg Brenhinol Obstetryddion a Gynecolegwyr.
"Dydyn ni ddim ar hyn o bryd yn casglu ystadegau penodol yn ymwneud â hyn yng Nghymru."