Bwrw 'mlaen â chynllun ystafelloedd cyffuriau diogel

  • Cyhoeddwyd
CyffuriauFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai cynllun i greu "ystafelloedd diogel" i ddefnyddwyr cyffuriau gael ei wireddu yng ngogledd Cymru, yn ôl comisiynydd heddlu a throsedd y rhanbarth.

Dywedodd Arfon Jones ei fod yn "gobeithio creu peilot" ble gall defnyddwyr cyffuriau eu cymryd yn ddiogel o dan oruchwyliaeth staff meddygol.

Mae'r comisiynydd wedi ymgyrchu dros gyfreithloni rhai cyffuriau ac fe ddefnyddiodd ei adroddiad blynyddol i amlygu'r mater hefyd.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r mater yn ddu a gwyn.

Bydd adroddiad y comisiynydd yn cael ei ystyried gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ddydd Llun.

'Afiechyd, dim trosedd'

"Mae'r frwydr yn erbyn cyffuriau wedi'i cholli ers tro a byddaf yn gweithio i newid y ffordd mae'r heddlu'n delio â chyffuriau," meddai Mr Jones yn yr adroddiad.

"Rwy'n credu'n gryf y dylai pobl sy'n gaeth i gyffuriau gael eu cyfeirio at y gwasanaeth iechyd am help, dim gadael i'r heddlu ddelio â nhw fel troseddwyr.

"Afiechyd yw bod yn gaeth i gyffuriau, dim trosedd."

Roedd 271 o farwolaethau'n ymwneud â chyffuriau yng Nghymru y llynedd - tuedd sydd wedi parhau i godi yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae Mr Jones wedi ymweld ag ystafelloedd diogel yn Y Swistir yn y gorffennol, a dywedodd bod hyn wedi'i argyhoeddi y gallai'r cynllun tebyg helpu pobl yng Nghymru.

"Y budd o'r cyfleusterau yw lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau a helpu lleihau'r ofnau am droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau," meddai yn ei adroddiad.

Mae Panel Cynghori Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cynnal ymchwil ar ystafelloedd diogel, a bydd hyn yn cael ei gyflwyno i'r Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans, mewn tro.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn gobeithio y gall gogledd Cymru greu cynllun peilot yn dilyn hynny.

'Cwestiynau sylweddol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn parhau i adolygu a monitro tystiolaeth o Ewrop am gyfleusterau fel ystafelloedd diogel.

"Yn anffodus dyw'r mater ddim yn ddu a gwyn, gyda chwestiynau sylweddol yn parhau am os yw ystafelloedd diogel yn cydymffurfio â deddfwriaeth y DU am gamddefnyddio cyffuriau," meddai llefarydd.

"Mae cyrff yng Nghymru wedi sefydlu grŵp i gasglu ac adolygu'r ymchwil a'r dystiolaeth am ystafelloedd diogel ac i ystyried os oes eu hangen mewn ardaloedd yng Nghymru."