Pencadlys newydd S4C yn cyrraedd ei fan uchaf

  • Cyhoeddwyd
Yr EginFfynhonnell y llun, PCYDDS

Mae pencadlys newydd S4C wedi nodi carreg filltir yn y gwaith adeiladu wrth i'r Egin gyrraedd ei fan uchaf.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gobeithio y bydd eu canolfan greadigol a digidol newydd wedi'i gwblhau erbyn haf 2018.

Bu nifer o bartneriaid sy'n rhan o'r fenter, gan gynnwys is-ganghellor y brifysgol, yr Athro Medwin Hughes, Prif Weithredwr S4C, Ian Jones a Steve Nicholls o brif gontractwr y prosiect, Grŵp Kier, yn cynnal seremoni ar do'r adeilad ddydd Llun i nodi'r achlysur.

'Gweledigaeth gyffrous'

Mae'r dyluniad ar gyfer yr adeilad 3,700 medr sgwâr yng Nghaerfyrddin eisoes wedi ei gymeradwyo gan Gomisiwn Dylunio Cymru.

Bydd cynllun mewnol yr adeilad wedi'i ganoli o amgylch cyntedd ac atriwm cyhoeddus fydd yn pontio'r tri llawr.

Yn ôl y brifysgol, y bwriad yw cael ffocws penodol ar ddarlledu a pherfformio ar y llawr gwaelod, gyda swyddfeydd ar gyfer S4C a phartneriaid eraill ar y ddau lawr arall.

Ffynhonnell y llun, PCYDDS
Disgrifiad o’r llun,

Bu nifer o bartneriaid sy'n rhan o'r fenter yn cynnal seremoni ar do'r adeilad i nodi'r achlysur

"Mae'r adeilad bellach wedi cyrraedd ei bwynt uchaf ac y mae'r seremoni hon yn nodi'n glir ein bod ni'n nesau at wireddu gweledigaeth gyffrous y brifysgol i ddatblygu clwstwr creadigol a digidol a fydd yn elwa'r sir, y rhanbarth a'r diwydiannau creadigol ar draws Cymru gyfan," meddai'r Athro Hughes.

"Bydd cyd-leoli amrywiaeth o ymarferwyr creadigol, digidol a diwylliannol yn yr un adeilad - gydag S4C fel y prif denant - yn creu cyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth, arloesi a chreu swyddi yn y sector blaenoriaethau allweddol hwn."