Pryder ynglŷn â mewnlifiad cyffur fentanyl i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae asiantaethau cyffuriau yng Nghymru wedi dweud nad ydyn nhw'n barod ar gyfer mewnlifiad posib o gyffur fentanyl sydd wedi arwain at nifer o farwolaethau.
Mae o leiaf 60 o bobl wedi marw yn y DU dros gyfnod o 18 mis ac mae nifer o achosion tebyg yn America a Chanada.
Mae'r cyffur synthetig yn cael ei gymysgu gyda heroin ac mae cymaint â phen pin yn cael ei ystyried yn beryglus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn cadw golwg ar y mewnlifiad â'r defnydd o'r cyffur.
'Dychrynllyd'
"Does dim amheuaeth ei fod yn sylwedd cryf iawn sydd â'r potensial i wneud niwed enfawr," meddai Clive Wolfendale, prif weithredwr elusen Cais a chyn-brif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.
"Dim un cyffur yn unig ydy fentanyl - mae cyfres o gyffuriau sydd o'r un teulu.
"Un o'r pethau dychrynllyd yw pa mor gryf ydy o - gall maint pen pin o'r cyffur yrru pobl yn wyllt."
Yn ôl Ifor Glyn o Drugaid Cymru dyw nifer o bobl ddim yn ymwybodol eu bod yn cymryd y cyffur am ei fod yn cael ei gymysgu gyda heroin ond mae nifer y marwolaethau yn "frawychus".
"Y pryder mwyaf yw byddwn yn gweld nifer o farwolaethau. Mae popeth dwi'n darllen ynglŷn â'r sefyllfa yn America a Chanada yn rhoi ias oer lawr fy nghefn," meddai.
"Mae rhaid gwneud rhywbeth nawr cyn bydd hi'n rhy hwyr."
Dywedodd hefyd nad yw erioed wedi dod ar draws unrhyw gyffur arall sydd yn achosi cymaint o niwed.
Beth yw fentanyl?
Cyffur cryf lladd poen sy'n cael ei rhoi i gleifion sydd ddim yn gwella ar ôl cymryd poenladdwyr eraill;
Yn aml yn cael ei gymysgu gyda heroin;
Symptomau cyffredin o orddos yw problemau anadlu ac anadlu'n araf, taflyd i fyny a theimlo'n sâl, teimlo'n chwil. Mae hefyd yn gallu achosi i bwysau gwaed godi neu ostwng.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y "mewnlifiad o'r cyffur fentanyl yn cael ei fonitro ledled Cymru".
"Yn dilyn marwolaeth person yng Nghymru ym mis Mai eleni, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion sy'n gysylltiedig â fentanyl gyda chyngor priodol er mwyn lleihau niwed," meddai.
"Rydym hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth ar fentanyl ar ein gwefan DAN 24/7 yn ogystal â chyngor ar leihau niwed."