Carwyn Jones: Datganoli wedi 'rhoi hyder i Gymru'
- Cyhoeddwyd
"Rhoi hyder i Gymru" yw'r gwahaniaeth mwyaf wnaeth sefydlu'r Cynulliad yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones
Union 20 mlynedd yn ôl ar 18 Medi 1997 fe bleidleisiodd pobl Cymru o drwch blewyn o blaid datganoli grym.
Fe arweiniodd hynny at greu Cynulliad ym Mae Caerdydd sy'n gyfrifol am feysydd fel iechyd ac addysg yng Nghymru.
Yn siarad â rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru dywedodd Mr Jones: "Mae hyder yn arwain at shwt gymaint o bethe'.
"Yn gyntaf, mae lefel diweithdra lawer yn is nawr nag yn y 90au.
"Ry'n ni nawr yn dueddol i fod yr un lefel â gweddill y Deyrnas Unedig - nid fel yna oedd pethe'."
'Sefyllfa well'
Ychwanegodd fod swyddi gwell ar gael yng Nghymru nawr yn sgil yr hyder ddaeth o ganlyniad datganoli, fod pobl ifanc yn dewis aros yma i fyw, a bod Cymru wedi mynd ati i lwyfannu digwyddiadau mawr fel ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.
Dywedodd Mr Jones bod hyn oll oherwydd datganoli.
Er yn cydnabod bod heriau i rai gwasanaethau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd ac ysgolion, roedd Mr Jones yn amddiffyn record ei lywodraeth yn y meysydd hynny sydd wedi eu datganoli.
"Ry'n ni mewn sefyllfa well na'r oedden ni yn y 90au [yn economaidd] heb os nac oni bai," meddai.
"Os edrychwn ni ar addysg yng Nghymru, ry'n ni'n adeiladu ysgolion newydd… ni newydd gael y canlyniadau TGAU gorau erioed."
'Brexit yw'r her fwyaf'
Wrth drafod dyfodol datganoli fe rybuddiodd Mr Jones eto mai gadael yr Undeb Ewropeaidd fydd yr her fwyaf i ddyfodol Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf.
"Yr her fwyaf sydd gyda ni yw sicrhau ein bod ni yn gallu gwerthu yn y farchnad fwyaf sydd ar ein stepen drws, sef Ewrop," meddai.
"Brexit yw'r her fwyaf - does dim modd osgoi hynny."
Ond tu hwnt i Brexit, mynnodd bod rhagor o waith i'w wneud i barhau i wella gwasanaethau fel addysg ac iechyd yng Nghymru.
Ac er ei bod hi'n bwysig nodi'r 20 mlynedd ers y refferendwm, mae Mr Jones yn mynnu bod angen i ni fel gwlad edrych ymlaen hefyd i wella dyfodol pobl Cymru.
Ond mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Rod Richards yn dweud bod datganoli wedi methu, ac nad yw gweinidogion Cymru wedi mynd i'r afael â nifer o faterion ers i'r Cynulliad gael ei ffurfio yn 1999.
"Er 'mod i yn erbyn y peth, pan ddigwyddodd roeddwn i wir eisiau iddo weithio oherwydd doeddwn i ddim eisiau i wleidyddiaeth Cymru edrych fel rhyw fath o jôc," meddai wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.
Ychwanegodd bod y Cynulliad "heb ddelifro ar wasanaethau cyhoeddus", gan roi'r bai am hynny ar y Prif Weinidog Rhodri Morgan, oedd eisiau creu gwahaniaeth amlwg rhwng Llafur y DU a Llafur Cymru, meddai.
"O ran polisi economaidd, y pethau mawr oedd angen eu gwneud yn syth oedd delio â thwneli Brynglas, adeiladu maes awyr priodol, diwygio llywodraeth leol a chyfuno gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd," meddai.
"Mae'r rheiny yn faterion mawr, a dydyn nhw heb eu cyffwrdd am eu bod yn rhy anodd a dyw'r gweinidogion ym Mae Caerdydd ddim o'r safon sydd ei angen."