Gwleidyddion Cymru'n beirniadu Sbaen am Catalunya
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidyddion o Gymru wedi condemnio ymddygiad llywodraeth Sbaen wrth iddynt geisio atal refferendwm annibyniaeth i Gatalunya.
Mae Senedd Catalunya wedi pasio deddf i alw refferendwm ar annibyniaeth oddi wrth Sbaen i'w gynnal ar 1 Hydref eleni.
Ond mae'r BBC ar ddeall fod erlynydd cyffredinol Sbaen wedi bygwth 712 o feiri etholedig yng Nghatalunya gydag achosion llys os byddant yn cefnogi cynnal y refferendwm.
Mae llywodraeth Sbaen ym Madrid wedi rhwystro'r refferendwm, drwy ddweud ei fod yn "anghyfansoddiadol".
'Parchu democratiaeth'
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi beirniadu llywodraeth Sbaen am y ffordd maent wedi ymateb i "ewyllys democrataidd" pobl Catalunya.
Dywedodd Ms Wood: "Mewn gwlad ddemocrataidd mae'n hanfodol bod dinasyddion yn gallu trafod dyfodol eu cenedl.
"Mae pobl Catalunya wedi gofyn am bleidlais ar ddyfodol eu cenedl, ac i lywodraeth Sbaen ymateb gyda bygythiadau a gormes, wel mae hynny yn mynd yn erbyn safonau democrataidd modern.
"Rhaid parchu democratiaeth a hawliau sifil a rhaid i bobl Catalunya gael ymgynghoriad heddychlon, tryloyw a democrataidd, ac rwy'n condemnio unrhyw ymgais i atal y broses honno."
Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi ei phenodi i fod yn rhan o'r ddirprwyaeth swyddogol fydd yn arsylwi'r refferendwm.
Mae Ms Evans hefyd wedi cyd-lofnodi cwestiwn i'r Comisiwn Ewropeaidd yn condemnio ymddygiad llywodraeth Sbaen.
Dywed Ms Evans: "Mae bygwth swyddogion etholedig gyda chael eu harestio am amddiffyn penderfyniad democrataidd i gynnal refferendwm yn warthus.
"Ymddengys fod llywodraeth Sbaen yn benderfynol o amharu ar refferendwm democrataidd trwy fygythiad.
"Mae gan y llywodraeth ymrwymiadau fel aelod o'r UE i barchu penderfyniadau democrataidd a hawliau sylfaenol dinasyddion yr UE.
"Rydym yn gofyn i'r Comisiwn Ewropeaidd ystyried y materion hyn ar frys, yn enwedig y bygythiadau yn erbyn swyddogion etholedig."
'Tanseilio democratiaeth'
Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru, Alun Davies AC hefyd wedi beirniadu ar ei gyfrif Twitter.
Dywedodd bod "gweithredoedd llywodraeth Sbaen yn tanseilio democratiaeth ac awdurdod yr Undeb Ewropeaidd".
Mae llywodraeth Sbaen wedi rhwystro'r refferendwm, drwy ddweud ei fod yn "anghyfansoddiadol".
Mae prif weinidog y wlad, Mariano Rajoy, wedi dweud "na all unrhyw wladwriaeth yn y byd dderbyn bod un o'i rhanbarthau yn dymuno gwneud i ffwrdd gyda chyfansoddiad a chyfreithiau'r wlad".
Mae'r llywodraeth wedi awdurdodi heddlu'r wlad i gymryd neu atal unrhyw beth sy'n ymwneud â refferendwm Catalunya, gan gynnwys y blychau pleidleisio.