Gwahardd cyfarwyddwr cwmni ceir o Fangor am dwyll £1m

  • Cyhoeddwyd
Menai
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cwmni Menai Vehicle Solutions yn cael ei reoli o Barc Menai

Mae cyn gyfarwyddwr cwmni ceir o Fangor wedi cael ei wahardd rhag rheoli busnes am 10 mlynedd am dwyllo cwsmeriaid o bron i £1m.

Dywedodd y Gwasanaeth Methdalu fod cwmni Gwyn Roberts, Menai Vehicle Solutions Ltd, wedi methu â darparu cerbydau i gwsmeriaid oedd wedi talu amdanyn nhw, ac wedi methu â throsglwyddo arian i gwsmeriaid am werthu ceir ar eu rhan.

Pan aeth cwmni ceir Menai i fethdaliad ym mis Hydref 2015, roedd ganddo ddyled o £1,250,000 i gwsmeriaid a chredydwyr eraill.

'Anghynaladwy'

Fe ddarganfyddodd ymchwiliad gan y Gwasanaeth Methdalu fod y cwmni'n gwerthu cerbydau newydd i aelodau o'r cyhoedd am bris is nag yr oedd y cwmni'n eu prynu nhw gan ddelwyr ceir.

Dywedodd y gwasanaeth fod hyn yn annog cwsmeriaid newydd i brynu, ond ei fod yn golygu nad oedd y cwmni'n gallu cwrdd â'r taliadau, gan olygu fod arian cwsmeriaid newydd yn cael ei ddefnyddio i brynu cerbydau i gwsmeriaid hŷn.

"Roedd y model busnes yn anghynaladwy", medd y Gwasanaeth Methdalu.

Canlyniad hyn oedd fod 40 cwsmer ar eu colled o o leiaf £969,011.

'Anfaddeuol'

Wrth gyfeirio at yr achos, dywedodd y Gwasanaeth Methdalu bod hwn yn "achos anffodus, pan gollodd aelodau o'r cyhoedd arian mawr o ganlyniad i arferion ariannol anfaddeuol Mr Roberts".

"Mae'r gwaharddiad hir yn dangos pa mor ddifrifol y mae'r Gwasanaeth Methdalu'n ystyried y camweinyddu hwn.

"Fydd y Gwasanaeth Methdalu ddim yn oedi rhag gweithredu pan fydd aelodau o'r cyhoedd ar eu colled o ganlyniad i gamweinyddu sy'n arwain at fethdalu."