'Problemau llygredd sylweddol' yn afonydd Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad i gyflwr tair o brif afonydd Caerdydd wedi canfod problemau llygredd sylweddol.
Yn ôl adroddiad mudiad Adfer ein Afonydd mae gostyngiad yn nifer y pysgod a safon y dŵr, a mwy o lygredd, wedi eu gweld yn rhannau o'r Taf, Elái a Rhymni.
Y prif resymau am hynny oedd camddefnydd o'r system garthion, a gwastraff o nwyddau electronig sydd heb eu cysylltu'n iawn.
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, gydag argymhellion ar gyfer gwelliannau.
'Effaith bywyd modern'
Ymysg y ffynonellau eraill o lygredd gafodd eu rhestru roedd sbwriel, gwastraff fferm, ac olew, braster a saim coginio oedd heb ei waredu'n iawn.
Fe wnaeth yr adroddiad hefyd ganfod fod planhigion fel llysiau'r dial a ffromlys chwarennog (Himalayan balsam) yn cael effaith andwyol ar fywyd gwyllt ac ecosystem yr afonydd.
Mae'r adroddiad yn gwneud 20 argymhelliad, gan gynnwys:
Annog pobl i adrodd achosion o nwyddau electronig heb eu cysylltu'n iawn, camddefnydd o'r system garthion, ac unrhyw lygredd arall;
Codi ymwybyddiaeth ynglŷn â pha bethau y mae modd eu fflysio lawr y tŷ bach, neu beidio;
Sicrhau fod tai yn cael eu cysylltu'n iawn i'r system ddraenio.
Mae'r argymhellion eraill yn cynnwys annog defnydd o dechnoleg fel ffonau clyfar i'w gwneud hi'n haws ac yn gynt adrodd digwyddiadau o lygredd.
Dywedodd Ramesh Patel, cadeirydd pwyllgor amgylchedd y cyngor, ei bod hi "wedi dod yn amlwg fod pwysau'r bywyd modern yn cael effaith negyddol ar afonydd lleol".
Ychwanegodd fod angen rhoi mesurau yn eu lle er mwyn sicrhau eu bod yn adfer.