Ymchwiliad i ddiffyg trydaneiddio Caerdydd-Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio trydaneiddio'r prif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Ym mis Mehefin dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth y gallai teithiau cynt gael eu cyflawni heb orfod trydaneiddio o ganlyniad i drenau newydd.
Dywedodd Chris Grayling y byddai'r trenau newydd ar y rheilffordd erbyn yr hydref eleni.
Ddydd Iau fe wnaeth cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, David Davies gadarnhau y byddai eu hymchwiliad yn ystyried os yw honiadau'r ysgrifennydd yn dal dŵr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd bod peidio trydaneiddio gyfystyr â "thorri blynyddoedd o addewidion i bobl Cymru".
Bydd y trenau newydd diesel-drydanol yn gallu rhedeg ar rannau o'r rheilffordd sydd wedi ac sydd heb eu trydaneiddio.
Mae Network Rail yn gobeithio trydaneiddio'r llinell rhwng Llundain a Chaerdydd erbyn diwedd 2018.
'Archwilio'r rhesymeg'
Dywedodd Mr Davies: "Mae'r llywodraeth wedi penderfynu yn erbyn trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe, gan gyhoeddi buddsoddiad mewn stoc newydd a gwelliannau i orsafoedd yn lle hynny.
"Rydyn ni wedi lansio'r ymchwiliad yma i archwilio'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad.
"Yw eu honiadau o fwy o gapasiti a theithiau cynt yn dal dŵr, neu oes dadl y byddai trydaneiddio yn darparu gwell gwerth am arian?"
Dywedodd Mr Davies y bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried effaith y penderfyniad ar economi de Cymru ac os dylai mwy o bwerau dros reilffyrdd gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017