Derbyn Gary Speed i Oriel yr Anfarwolion
- Cyhoeddwyd
Mae cyn gapten a rheolwr tîm pêl-droed Cymru, y diweddar Gary Speed, wedi ei dderbyn i Oriel yr Anfarwolion yn yr Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol ym Manceinion.
Roedd y panel ddewisodd Speed i ymuno â'r oriel yn cynnwys enwau mawr y byd pêl-droed fel Syr Geoff Hurst a Syr Bobby Charlton.
Speed sydd wedi ennill y nifer uchaf o gapiau i chwaraewr sydd ddim yn gôl geidwad i Gymru, ac roedd yn rheolwr o fis Rhagfyr 2010 hyd at ei farwolaeth ym mis Tachwedd 2011.
Chwaraeodd Speed 536 o weithiau yn Uwch Gynghrair Lloegr - record ar y pryd.
Bu'n chwarae i glybiau'n cynnwys Leeds United, Everton a Newcastle United.
Hefyd yn cael eu derbyn ar yr un pryd oedd chwaraewyr canol cae Lloegr, Steven Gerrard a Frank Lampard, cyn chwaraewr a rheolwr West Ham, Billy Bonds, a chyn golwr Arsenal, Bob Wilson.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2015