'Angen gwneud mwy i ragweld llyncdyllau' medd arbenigwr
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr daearegol wedi dweud y gellir rhagweld llyncdyllau mewn rhai achosion, ac y dylid gwneud mwy i'w hatal.
Yn gynharach ym mis Medi ymddangosodd llyncdwll ar ffordd breswyl yng Nghastell-nedd, 18 mis ar ôl i dwll mwy ymddangos gerllaw.
Fe wnaeth bobl leol godi pryderon am hen weithredoedd mwyngloddio allai fod wedi cyfrannu at ddigwyddiadau tebyg.
Mae arbenigwr mwynau sydd wedi cynnal ymchwiliadau o'r ardal wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen i'r awdurdod lleol fod yn fwy rhagweithiol.
'Brawychus, anrhagweladwy'
Dywedodd Tom Backhouse, sylfaenydd cwmni archwilio daearegol Terrafirma, bod hen byllau glo, siafftiau a mwyngloddiau yn gallu arwain at y ddaear yn ansefydlogi, sydd "bob amser wedi cael ei ystyried fel rhywbeth na allwch wneud unrhyw beth amdano", meddai.
Ychwanegodd: "Mae pobl yn ystyried llyncdyllau fel pethau eithaf brawychus, a bron yn anrhagweladwy.
"Ond mae'n rhaid i hynny newid oherwydd nid ydynt mewn gwirionedd yn anrhagweladwy, yn enwedig pan fyddant yn cael eu hachosi gan hen weithfeydd mwyngloddio.
"O ran y bobl sy'n gwneud y penderfyniadau, yr awdurdod lleol, datblygwyr, Dŵr Cymru, mae'n angen iddynt gymryd mwy o gyfrifoldeb am y math yma o bethau sy'n digwydd."
'Mwy o gyfrifoldeb'
Ychwanegodd Mr Backhouse: "Mae gweld llyncdwll mewn ffyrdd yn gyffredin oherwydd bod gennych hen ddraeniau ac ati, ac os ydynt yn gollwng ac yn heneiddio, byddant yn achosi i'r math yma o bethau ddigwydd yn amlach."
Mewn datganiad, dywedodd Dŵr Cymru: "Pryd bynnag y byddwn yn dod ar draws peryglon, rydym yn gweithio gyda'r awdurdod lleol ac asiantaethau perthnasol eraill i helpu eu hymchwiliadau.
"Nid oes unrhyw dystiolaeth bod unrhyw asedau neu weithgareddau Dŵr Cymru wedi cyfrannu at ddigwyddiadau diweddar yng Nghastell-nedd neu wedi eu heffeithio."
Gellir dod o hyd i hen weithfeydd mwyngloddio ar draws maes glo De Cymru, gan gynnwys Cwm Nedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2016