Penodi pum aelod newydd i Awdurdod Cyllid Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae dau aelod blaenllaw o Blaid Cymru wedi'u penodi i'r corff newydd fydd yn casglu a rheoli trethi Cymreig.
Awdurdod Cyllid Cymru fydd yn gyfrifol am gasglu'r dreth trafodiadau tir - y dreth stamp gynt - a'r dreth tirlenwi o fis Ebrill 2018.
Mae rheolaeth o ganran o dreth incwm yn dilyn maes o law.
Ddydd Iau penodwyd pum aelod o'r bwrdd, gan gynnwys y cyn-AC Jocelyn Davies a chyn-arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards.
'Cyfoeth o brofiad'
Yr aelodau eraill yw'r entrepreneur David Jones, Lakshmi Narain o'r Sefydliad Siartredig Trethu a'r cyfrifydd siartredig Martin Warren.
Mae Dyfed Alsop a Kathryn Bishop eisoes wedi'u penodi yn brif weithredwr a chadeirydd.

Mae Dyfed Alsop wedi gweithio i fanc HSBC a'r Trysorlys
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "O fis Ebrill nesaf ymlaen, bydd Cymru'n gyfrifol am gasglu a rheoli ein trethi ein hunain wrth i'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi gael eu cyflwyno.
"Mae tipyn o waith wedi'i wneud i baratoi ar gyfer datganoli pwerau treth a sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru."
Roedd aelodau newydd y bwrdd yn cynnig "cyfoeth o brofiad", meddai.
Bu Jocelyn Davies yn ddirprwy weinidog gyda chyfrifoldeb dros bolisi tai fel rhan o'r glymblaid Llafur-Plaid Cymru rhwng 2007 a 2011.
Bu Dyfed Edwards yn arweinydd cyngor Gwynedd o 2008 nes iddo ymddeol ym mis Mai eleni.