Prifysgol Aberystwyth yw'r orau am safon dysgu
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi'i henwi fel y gorau yn y DU ar gyfer safon dysgu gan bapur newydd y Times.
Ond mae Prifysgol Caerdydd wedi adennill ei lle fel y gorau yng Nghymru yn gyffredinol yn ôl y Good University Guide 2018, wedi i Abertawe gymryd yr anrhydedd y llynedd.
Mae'r ddwy brifysgol wedi codi i 35ain a 36ain yn y tabl, gydag Aberystwyth hefyd wedi'i chynnwys yn y 50 uchaf.
Mae'r rhestr yn cael ei llunio gan ystyried amryw o ffactorau, gan gynnwys boddhad myfyrwyr, y cyfleoedd i raddedigion a chanlyniadau graddau.
Daw llwyddiant Prifysgol Aberystwyth wedi iddi hefyd gael ei henwi yn y 10 uchaf ar gyfer boddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr.
Mae'r brifysgol wedi codi naw safle yn y tabl i'r 47fed safle, gyda Bangor hefyd yn codi, a hynny i'r 55fed safle.
Mae Prifysgol Met Caerdydd yn y 90ain safle, gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 104ydd.
Mae Prifysgol De Cymru yn 119eg, a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yw'r isaf o sefydliadau Cymru, yn 127ain allan o'r 129 ar y rhestr.