Pedwar yn yr ysbyty ar ôl datgan 'digwyddiad mawr' ar yr A55

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Cafodd pedwar o bobl eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A55 brynhawn Sadwrn a welodd digwyddiad mawr yn cael ei ddatgan.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad ger Pentre Helygain yn Sir y Fflint am 15:21.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng lori gymalog a oedd yn teithio tua'r dwyrain a dau gerbyd oedd yn teithio ar y ffordd tua'r gorllewin.

Cafodd gyrrwr y lori, dyn 58 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus. Mae bellach wedi'i ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau'r heddlu'n parhau.

Yn dilyn y gwrthdrawiad, cafodd dau berson eu cludo i ysbyty yn Stoke - un mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau difrifol - gyda dau arall yn cael eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Roedd y ffordd ar gau am sawl awr ddydd Sadwrn tra roedd yr Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Fforensig yn cynnal eu hymchwiliad cychwynnol.

Fe wnaeth lôn ailagor i'r ddau gyfeiriad toc wedi hanner nos ac mae cyfyngiad cyflymder o 40mya bellach ar waith.

Mae Sarjant Danielle Ashley o'r Uned Troseddau Ffyrdd yn apelio am dystion.

Dywedodd: "Hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi rhoi eu manylion inni yn dilyn gwrthdrawiad ddoe, fodd bynnag rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau dashcam ychydig cyn i'r gwrthdrawiad ddigwydd, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig