Pryder gwastraff niwclear Hinkley: 'Angen oedi'
- Cyhoeddwyd
Dylai cynllun i dynnu 300,000 tunnell o fwd ger hen orsaf niwclear a'i roi yn y môr oddi ar arfordir Bro Morgannwg gael eu hoedi, yn ôl ymgyrchwyr.
Dywedodd ymgynghorydd llygredd môr bod sediment o'r tir ger gorsaf Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf wedi ei heintio a bod angen profion pellach.
Mae un AC wedi dweud ei fod yn "syfrdanol" bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi trwydded i'r cynllun heb Asesiad Effaith Amgylcheddol.
Dywedodd gweinidogion bod y cais wedi ei ystyried yn unol â'r gofynion cyfreithiol.
Mae'r cwmni wnaeth y cais, EDF Energy, yn dweud bod asesiadau'n dangos na fydd perygl i iechyd na'r amgylchedd.
Mae'r cynllun yn cynnig treillio ym Mae Bridgewater ger hen adweithyddion Hinkley Point A a B, a hynny fel rhan o'r gwaith adeiladu i orsaf Hinkley Point C sydd werth £19.6bn.
Daeth i'r amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatad yn 2013 i ddatblygwyr gael gwared ar wastraff ar safle sy'n cael ei adnabod fel Cardiff Grounds, oedd yn arfer cael ei ddefnyddio i roi gwastraff o ddociau Caerdydd a Chasnewydd.
Ond mae'r ymgynghorydd Tim Deere-Jones, sy'n arbenigo mewn ymbelydredd morwrol, yn dweud bod gwaith samplo o'r mwd wedi bod yn annigonol.
Dywedodd bod y sediment wedi bod mewn cysylltiad â dŵr a gwastraff lefel isel o'r gorsafoedd niwclear ers dros hanner canrif.
"Yn hytrach na bod yn eithaf sefydlog ar safle Hinkley mae'n cael ei dynnu i fyny a'i symud draw yma i gael ei ddympio," meddai.
"Bydd llygredd ymbelydrol ac arferol yn sicr yn mynd i'r dŵr ac amgylchedd arfordirol."
Ychwanegodd bod ei bryderon am y "diffyg dealltwriaeth" am y deunydd gwastraff a'r effaith bosib ar bobl.
"Mae sawl ymchwiliad wedi dangos bod gwastraff sy'n cael ei ollwng i'r môr yn mynd i'r tir... o ganlyniad gallai'r boblogaeth ar arfordir Cymru ddod i gysylltiad ag ymbelydredd morwrol."
'Syfrdanol'
Mae AC Canol De Cymru, Neil McEvoy wedi dweud y dylai'r drwydded gael ei dynnu'n ôl hyd nes y bydd asesiad amgylcheddol llawn wedi ei gwblhau.
"Does yr un dos o ymbelydredd yn dderbyniol i iechyd dynol felly mae'n syfrdanol bod Llywodraeth Cymru wedi caniatau i ddeunydd o orsaf niwclear gael ei roi ym moroedd Cymru," meddai.
Cafodd y caniatâd am y cais ei roi wrth i'r cyfrifoldeb am reoleiddio amgylcheddol gael ei symud o Asiantaeth yr Amgylchedd at Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae'n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi delio â'r cais, ac mae BBC Cymru yn deall bod modd cadw rheolaeth dros dermau'r drwydded.
Dywedodd CNC y byddai profion pellach cyn i'r sediment gael ei roi yn y môr, ac y byddai "amddiffyn yr amgylchedd a iechyd cyhoeddus" yn "bryder sylfaenol".
Ychwanegodd John Wheadon o CNC: "Byddwn yn archwilio canlyniadau'r profion gydag arbenigwyr technegol er mwyn bod yn sicr ei fod yn addas i'r deunydd gael ei roi yn yr ardal."
'Dim perygl'
Dywedodd EDF Energy bod y treillio yn rhan o waith adeiladu system oeri dŵr, a bod y cwmni wedi ymgynghori am dros 12 mis cyn gwneud cais i Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd: "Rydym wedi cwblhau nifer o asesiadau fel rhan o'r cais yma wnaeth gasglu nad yw'r gwaith yn berygl i iechyd dynol na'r amgylchedd."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, nad oedd modd iddi wneud sylw ar y broses wnaeth ddigwydd "peth amser yn ôl".
"Mae pob cais morwrol yn cael ei ystyried yn unol a'r gofynion cyfreithiol. Rydw i'n deall bod trwydded forwrol mewn grym a bod angen i'r deilydd gydymffurfio gyda thelerau cyn dechrau symud gwastraff."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2016